Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi erlyn 3 unigolyn mewn 3 achos Gorfodi Cynllunio ar wahân:
![Erlyniadau Cynllunio](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/20250127_123858-2-1024x768.jpg)
- Cafodd perchennog tir yn Fenns Moss ei erlyn am fethu â symud carafán breswyl, yn groes i ofynion Hysbysiad Gorfodi Cynllunio, ac fe’i gorchmynnwyd i dalu dirwy o £1000, £100 o gostau ymchwilio, £189 o gostau cyfreithiol a gordal o £540
![Erlyniadau Cynllunio](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/20190408_113401-1-1024x576.jpg)
- Cafodd gweithredwr safle busnes ar Ffordd Caer yng Ngresffordd ei erlyn am arddangos arwyddion goleuedig heb ganiatâd hysbysebu ac fe’i gorchmynnwyd i dalu dirwy o £1000, £120 o gostau cyfreithiol, £100 o gostau ymchwilio a gordal o £400;
![Erlyniadau Cynllunio](https://newyddion.wrecsam.gov.uk/wp-content/uploads/2025/02/Screenshot-2025-02-11-125805-1.jpg)
- Erlynwyd perchennog tir yn Rhosrobin am fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a gyflwynwyd o dan Adran 215 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i wneud gwaith i wella cyflwr tir anniben ac fe’i gorchmynnwyd i dalu dirwy o £1000, £180 o gostau cyfreithiol, o £100 o gostau ymchwilio a gordal o £400.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae canlyniad yr achosion hyn eto yn dangos ein bod yn cymryd methiant i gydymffurfio â rheolau cynllunio, gan gynnwys methu â chydymffurfio â Hysbysiadau Gorfodi, o ddifrif, ac y byddwn yn ymateb yn gadarn.”
Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam: “Mae rheoliadau cynllunio yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd a’n cymunedau ac mae achosion o fynd yn groes i’r rhain yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae’r achosion hyn yn dangos bod ein Swyddogion yn ymateb yn gadarn i achosion o dorri rheolau cynllunio drwy gymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn lle mae hynny’n hwylus.”