Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi erlyn 2 unigolyn mewn 2 achos Gorfodi Cynllunio ar wahân:
- Cafodd perchennog eiddo manwerthu ar Glan yr Afon, Wrecsam, ei erlyn am arddangos arwyddion goleuedig heb ganiatâd hysbysebu, a gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o £120, £280 o gostau cyfreithiol a gordal dioddefwr o £48;
- Cafodd perchennog eiddo preswyl ar Ffordd Rhiwabon, Wrecsam, sydd o fewn Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg, ei erlyn am fethu â thynnu ffenestri uPVC a’u disodli â ffenestri pren i gyd-fynd â’r ffenestri a oedd wedi’u gosod yn flaenorol, a oedd yn groes i ofynion Hysbysiad Gorfodi Cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae canlyniad yr achos hwn yn enghraifft arall o Dîm Gorfodi Cynllunio’r Cyngor yn ymateb yn gadarn pan fydd rheoliadau cynllunio yn cael eu torri.
Dylai tirfeddianwyr ofyn am gyngor gan Swyddogion Cynllunio’r Cyngor cyn ymgymryd â gwaith datblygu i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn groes i reoliadau cynllunio. Mewn achosion o dorri rheolau, dylai tirfeddianwyr weithredu’n brydlon i ymgymryd â gwaith i unioni hyn cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi’r risg o erlyniad.”
Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam: “Mae ein Swyddogion yn ymateb yn gadarn i achosion o dorri rheolau cynllunio drwy gymryd camau gorfodi. Erlyn yw’r dewis olaf a bydd y Cyngor ond yn cymryd y cam hwn pan fydd tirfeddianwyr yn methu â chymryd camau priodol i unioni achosion o dorri rheolau cynllunio. Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth cynghori cyn gwneud cais. Gall y gwasanaeth hwn roi’r cyngor sydd ei angen ar dirfeddianwyr i’w helpu i osgoi torri rheoliadau cynllunio yn y lle cyntaf.”