Bydd Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a diogelwch hanfodol ar yr A483 a’r A5 yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 22 Mehefin. Bydd y gwaith hwn yn cymryd 3 wythnos i’w gwblhau.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng ffin y sir ger yr Orsedd (cyffordd 7) a ffin y sir ger cylchfan Gledrid.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Bydd y gwaith yn cynnwys cynnal a chadw’r llain ymyl ffordd, gwaith draenio, archwiliadau a chasglu sbwriel yn ystod y nos er mwyn lleihau’r amhariadau i ddefnyddwyr y ffordd. Bydd y lonydd a’r slipffordd ar gau rhwng 18:00 a 06:00. Mae angen gwneud y gwaith yma er mwyn cynnal cyflwr y ffordd, diogelu teithwyr ac i ganfod unrhyw wendid sylweddol i leihau’r risg o orfod cau’r ffordd yn y dyfodol heb fwriad i wneud hynny.
Ychydig iawn o oedi fydd yna ond cofiwch am ein gweithwyr allweddol a chaniatewch fwy o amser ar gyfer eich siwrne.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad fel rhan o’n rhaglen i gynnal a chadw ein hisadeiledd, a gofynnaf i deithwyr sy’n defnyddio’r ffordd ganiatáu mwy o amser ar gyfer eu siwrneiau.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19