Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Eisteddfod Wrecsam 2025 - cyrraedd y Maes
Eisteddfod Wrecsam 2025 – cyrraedd y Maes
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd!
Pobl a lle

Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd!

Diweddarwyd diwethaf: 2017/11/13 at 10:48 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd!
RHANNU

Wrth i’r Nadolig nesáu, gofalwch nad ydych yn methu’r hwyl a’r hud gyda’r canllaw hwn i ddigwyddiadau canol y dref i ddathlu’r Nadolig!

Mae’r cyfan yn dechrau am 5pm ar 23 Tachwedd pan fydd goleuadau canol y dref yn cael eu troi ymlaen a phan fydd y siopau ar agor yn hwyr i’ch rhoi yn ysbryd yr ŵyl. Mae’r digwyddiad eleni’n cael ei drefnu gan y Clwb Rotari gyda chefnogaeth Cyngor Wrecsam.  Bydd llwyth o hwyl Nadoligaidd i’w fwynhau, a dyma rai o’r bobl a fydd yno ar gyfer y digwyddiad:

  • Clwb Pêl-droed Wrecsam
  • Thomas Teago
  • ‘The Phonics’ – band teyrnged Stereophonics
  • Y cantorion April Lee a Damon Jacs
  • Brenhines Elsa
  • Corau ysgol
  • Cynhyrchiad o ‘Elf’
  • Band Before the Storm
  • a thri gwestai enwog o bantomeim y Stiwt eleni!
  • DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Ar 2 Rhagfyr am 11am, bydd y dyn ei hun yn cyrraedd!  Eleni bydd Sion Corn yn cyrraedd ei groto ar Sgwâr y Frenhines mewn gorymdaith gerddorol gyda’i garw a’i sach llawn rhyfeddodau ar strydoedd canol y dref.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

O’r diwrnod hwnnw tan 23 Rhagfyr, bydd Sion Corn yn ei groto bob dydd i chi ymweld ag o.

Ar 3 Rhagfyr bydd sgrin sinema awyr agored fawr yn dod i’r dref a bydd noson o ffilmiau Nadoligaidd clasurol yn cael ei chynnal ym maes parcio’r Byd Dŵr. Yn dilyn pleidlais ar-lein, y ffilmiau buddugol oedd Elf a fydd ymlaen am 5,30pm a Home Alone a fydd ymlaen am 8pm. Bydd tocynnau ar gael yn y Ganolfan Groeso trwy ffonio 01978 292015 neu ar wefan http://www.thisiswrexham.co.uk  Mae’r tocynnau’n costio £15 y car.

Yn olaf, bydd y Farchnad Nadolig Fictoraidd yn dychwelyd ar 7 Rhagfyr, 12 – 8pm. Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn i’r dref ac mae’n denu miloedd o siopwyr bob blwyddyn. Eleni bydd y farchnad yn cael ei hymestyn drwy’r dref o Sgwâr y Frenhines, i lawr Heol Y Frenhines, Stryt yr Hob, Stryt yr Eglwys i  Eglwys San Silyn, a bydd dros 100 o stondinau, reidiau Fictoraidd a mwy o adloniant Fictoraidd.

Cofiwch hefyd… trwy gydol mis Rhagfyr gallwch barcio am ddim yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Wrecsam (cyfyngiadau arferol yn berthnasol) felly gallwch gymryd eich amser i fynd o amgylch y siopau!

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU

Rhannu
Erthygl flaenorol Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu! Peidiwch â gadael i wastraff fynd i wastraff – helpwch ni i ailgylchu!
Erthygl nesaf Peidiwch â phoeni am adrodd drosedd casineb Peidiwch â phoeni am adrodd drosedd casineb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Ageing Well event at Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin)

Gorffennaf 10, 2025
wrexham library
DigwyddiadauPobl a lle

Seren yr 80au yn Llyfrgell Wrecsam

Gorffennaf 10, 2025
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English