Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2025 4:31 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
RHANNU

Eleni eto, bydd miloedd o drigolion lleol dalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol sydd ar incwm isel yn gallu ymweld â’r Brifwyl yn rhad ac am ddim, diolch i grant o £200,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r grant hwn yn cynnwys mynediad am ddim i’r teulu cyfan, ynghyd â thaleb bwyd i blant. Bwriad y pecyn yw sicrhau fod trigolion lleol na fyddai’n ystyried ymweld â’r Eisteddfod fel arall yn gallu manteisio ar y cyfle i ymweld â’r ŵyl a gynhelir yn ardal Is-y-coed ar gyrion Wrecsam o 2-9 Awst eleni.

Ymgeisiwch rŵan

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford, “Rwy’n falch ein bod ni’n rhoi cefnogaeth i sicrhau bod fwy o deuluoedd yn gallu mwynhau’r Eisteddfod.

“Mae’r Eisteddfod yn rhan bwysig iawn o’n calendr diwylliannol ac yn rhoi’r cyfle i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg beth bynnag yw eu cefndir. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae’r grant yma am alluogi mwy o deuluoedd i fynychu’r ŵyl.”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth unwaith eto eleni, er mwyn sicrhau fod teuluoedd lleol ar incwm isel yn gallu cael blas ar ein hiaith a’n diwylliant yn yr Eisteddfod.

“Mae’r cynnig yn cynnwys talebau bwyd i blant yn ogystal â thocyn Maes, ac rydyn ni’n credu fod cynnig mwy na thocyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy’n dymuno dod draw i’r Maes. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i ardal Is-y-coed ymhen y mis.”

Mae’r cynllun eleni’n cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ran yr Eisteddfod, ac mae’r cyngor yn y broses o gysylltu â phawb sy’n gymwys i wneud cais am docyn Maes am ddim ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol, Diogelu’r Cyhoedd a Phencampwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Wrth i ni edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r Eisteddfod yn Wrecsam, rydyn ni’n awyddus iawn i sicrhau y bydd cynifer o’n trigolion ni â phosibl yn cae cyfle i ymweld a phrofi a dathlu ein hiaith a’n diwylliant.

“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i weithio gyda’r trefnwyr i ddarparu’r cyfle yma i deuluoedd na fyddai wedi ystyried ymweld â’r ŵyl fel arall, diolch i gefnogaeth hael y Llywodraeth. Rydw i’n annog pawb sy’n gymwys i dderbyn tocynnau i wneud cais a manteisio i’r eithaf ar ymweliad yr Eisteddfod.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst. Am ragor o wybodaeth, ewch i eisteddfod.cymru

 


Ymgeisiwch rŵan

Rhannu
Erthygl flaenorol Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Erthygl nesaf Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth. Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor
Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhiannon Roberts yn torri'r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam
Pobl a lle

Rhiannon Roberts yn torri’r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam

Medi 29, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau

Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English