Cynhaliwyd digwyddiad ar 19 Hydref yn yr Hwb Lles yn Adeiladau’r Goron yn Wrecsam i nodi lansiad y Strategaeth Atal a Chymorth Cynnar a’r Porth Lles newydd, ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Mae’r Strategaeth Atal a Chymorth Cynnar yn ddogfen aml-asiantaeth, sy’n uno’r asiantaethau allweddol yn Wrecsam sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd ac yn cynorthwyo’r asiantaethau hyn i ganolbwyntio ar yr un blaenoriaethau; iechyd meddwl a chorfforol, iaith a lleferydd, perthnasoedd teuluol, tlodi ac ymgysylltu gydag addysg. Mae’r strategaeth yn helpu asiantaethau i ganolbwyntio ar gamau i gynorthwyo i wella pethau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Porth Lles yn rhoi mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd a phawb sy’n gweithio gyda nhw, ac mae’r mynediad yn gyflym a hawdd, ac mewn un lle. Mae hyn yn cynnwys dolenni cyswllt at wybodaeth am:
- Plant ag anableddau ac anghenion ychwanegol
- Cymorth i deuluoedd
- Cefnogi pobl ifanc
- Incwm, budd-daliadau a dyled
- Tai a thenantiaethau
- Datblygiad plentyn
- Lles meddyliol
- Perthnasoedd cadarnhaol
- Diogelu plant
Mae adran ddefnyddiol lle gall pobl wneud cais am gymorth ar-lein a rhifau cyswllt ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth defnyddio’r porth.
Lansiwyd y porth ar ôl ymgynghoriadau helaeth gyda gweithwyr proffesiynol a theuluoedd a gyflwynodd bryderon o ran anawsterau canfod y wybodaeth gywir. O ganlyniad, bydd yr holl wybodaeth yn awr yn hygyrch mewn un lle yn hytrach na’i ganfod drwy amrywiaeth o ddarparwyr gwybodaeth a gwefannau.
Bydd cefnogaeth ar gael drwy’r Porth gan nifer o sefydliadau partner sy’n gweithio yn Wrecsam i gefnogi plant a theuluoedd gyda’r holl faterion uchod.
Mae’r porth yn weithredol ar hyn o bryd i gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan anabledd ac wrth i’r prosiect ddatblygu bydd y Porth yn ehangu i gynnwys cefnogaeth gyda magu plant, cymorth tai a thenantiaeth, cefnogaeth addysg a’r holl feysydd eraill sydd eu hangen ar gyfer teuluoedd i roi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, a agorodd y digwyddiad:
“Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn. Mae cyfoeth o gyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar gael mewn un lle sy’n gwneud y broses o ddod o hyd i’r cyngor cywir yn haws a llawer cynt, ac yn cael effaith bositif ar ddefnyddwyr y gwasanaethau hyn.”
Daeth dros 60 o bobl i’r digwyddiad. Cafwyd croeso gan y maer, y Cynghorydd Andy Williams a llefarwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Dynamic a gwahanol adrannau’r Cyngor gan bwysleisio pa mor bwysig yw gwasanaethau atal da ar gyfer teuluoedd yn Wrecsam a pha mor allweddol yw’r cydweithio rhwng yr asiantaethau.
Siaradodd Rebecca, rhiant, a pherson ifanc, David, am eu profiadau o wynebu heriau yn eu bywydau eu hunain a sut y gwnaeth derbyn cefnogaeth gan wasanaethau atal wneud gwahaniaeth er mwyn iddynt wella pethau yn eu bywydau.
Os hoffech gael mynediad at Borth Lles Wrecsam ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/y-porth-lles neu ewch yn uniongyrchol i’r ffurflen gais ar htttps://myaccount.wrexham.gov.uk/en/service/Social_Care_IAG_Form
Os hoffech i rywun ddod i’ch gwasanaeth i drafod y Porth Lles, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar fis@wrexham.gov.uk