Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lle estynedig yn Narpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd yn edrych yn wych i bobl ifanc
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Lle estynedig yn Narpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd yn edrych yn wych i bobl ifanc
Y cyngorArall

Lle estynedig yn Narpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd yn edrych yn wych i bobl ifanc

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 5, 2024 4:57 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Minera
RHANNU

Gofynnwyd i bobl ifanc sy’n defnyddio Darpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd “pe byddai yna arian i helpu i wella’r ddarpariaeth ieuenctid beth hoffech chi i ni ei wneud?’

Dyma eu hawgrymiadau: gemau i chwarae y tu mewn a’r tu allan, hefyd awgrymwyd y byddai gwres yn y cynhwysydd yn helpu yn ystod y misoedd oerach ac y byddai lloches a goleuadau y tu allan yn rhoi mwy o le iddynt i chwarae gemau neu i dreulio amser gyda ffrindiau. 

Cefnogodd y bobl ifanc y cais am grant gan Gynllun Grant Bach Grant Refeniw y Gwasanaeth Ieuenctid a chawsant arian i ddarparu adnoddau newydd, gan gynnwys offer chwaraeon, gemau y tu allan a gemau bwrdd newydd.  Darparodd Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam wresogyddion ar gyfer y tu mewn i’r cynwysyddion a goleuadau y gellir eu hailwefru i’w defnyddio y tu allan a hefyd sicrhawyd £1500 ar gyfer deunyddiau i adeiladu lloches i ymestyn y gofod y tu allan. 

Cysylltwyd â Choleg Cambria a gofynnwyd iddynt a hoffent gefnogi’r gwaith o adeiladu’r lloches, a chytunodd y coleg i hynny. Roedd y £1500 yn llwyddo i dalu am y deunyddiau oedd eu hangen a chynigodd Coleg Cambria eu gwasanaethau’n rhad ac am ddim.

Gweithiodd y staff a’r myfyrwyr yn galed gan dreulio sawl awr yn mesur, cynllunio ac yn dylunio’r lloches i weddu i anghenion y ddarpariaeth ieuenctid. Yna yn ystod gwersi yng Ngholeg Cambria fe ddefnyddiodd y myfyrwyr, wedi eu cefnogi gan staff, eu sgiliau i adeiladu’r fframiau. Yn olaf fe ddaethant yn ôl i’r ddarpariaeth ieuenctid a gosod y ffrâm i’r llawr a’r cynhwysydd, ychwanegu’r to a gorffen y cyfan drwy staenio’r pren.  Ac mae’n edrych yn wych!

Lle estynedig gwych i bobl ifanc Y Mwynglawdd ac ardaloedd eraill

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Roedd hwn yn brosiect ar y cyd lle gofynnodd pobl ifanc am newid ac yna fe gefnogodd pobl ifanc y newidiadau hynny. Dyma enghraifft berffaith o bobl ifanc yn lleisio eu barn ac yn gwella eu cymunedau. Nawr mae yma le estynedig gwych i’r bobl ifanc o’r ddarpariaeth ieuenctid ei ddefnyddio a hefyd bydd Timau Pêl-droed Coedpoeth a’u teuluoedd yn elwa ac rydym yn sicr y byddant yn gwerthfawrogi lle sych i aros yn ystod y sesiynau hyfforddi neu wrth wylio’r gemau.

“Diolch i bawb fu’n rhan o hyn.”

Mae Darpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd ar gyfer pobl ifanc 10 – 15 oed, mae’n lle diogel i’r bobl ifanc chwarae a gwneud ffrindiau. Rydym yn darparu llawer o wahanol weithgareddau, sesiynau addysgiadol, chwaraeon a theithiau. Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth yn ystod y tymor o 6pm tan 8pm. 

Os hoffai unrhyw un ragor o wybodaeth ar Ddarpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd yna cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam: youthservice@wrexham.gov.uk

 

Lle estynedig yn Narpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd yn edrych yn wych i bobl ifanc
Minera Youth Provision

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Grymuso Cynaliadwyedd: Siwrnai Lleihau Carbon Ysgol Gynradd Yr Holl Saint

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Previous Heol Offa bungalows Bydd gwaith yn dechrau ar Heol Offa, Johnstown ddiwedd mis Mehefin
Erthygl nesaf Wythnos Cysylltiadau Coetir, 15 Mehefin i 21 Mehefin - Coed Noddfa Wrecsam Wythnos Cysylltiadau Coetir, 15 Mehefin i 21 Mehefin – Coed Noddfa Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English