Wrth baratoi i gynnal Pencampwriaeth dynion D19 UEFA yng Ngogledd Cymru, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol o £3m i gyfleusterau ar gyfer y twrnamaint a fydd yn cael ei gynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf 2026.
Dyfarnwyd Pencampwriaeth D19 i Gymru gan UEFA ym mis Medi 2023 a bydd twrnamaint y rowndiau terfynol yn cael ei ddefnyddio i ddathlu penblwydd 150 CBDC. Bydd wyth tîm yn cystadlu yn y rowndiau terfynol, gyda saith tîm yn symud ymlaen trwy ddwy rownd ragbrofol i ymuno â Chymru fel y gwesteiwyr.
Mae’r lleoliadau canlynol wedi cael eu nodi ar draws Gogledd Cymru:
Stadiwm Gogledd Cymru
- Stadiwm Nantporth, Bangor
- Parc Canolog, Dinbych
- Yr Oval, Caernarfon
- STōK Cae Ras, Wrecsam
Lleoliadau Hyfforddi:
- Ffordd Lanelian, Bae Colwyn
- Parc y Glowyr, Gresffordd
- Y Globe, Bwcle
- Meysydd Chwarae Coffa, Rhuthun
- Belle Vue, Y Rhyl
- Yr Oval Newydd, Caergybi
- Cae Sling, Penmaenmawr
Bydd talent ifanc orau o bob rhan o’r cyfandir yn dod i Gymru ar gyfer y Bencampwriaeth D19 gan fod y twrnamaint yn adnabyddus am arddangos y sêr y dyfodol, gyda Kylian Mbappè ac Erling Haarland wedi cymryd rhan yn y gorffennol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi cymhwyso ddwywaith ar gyfer fersiwn D17 y twrnamaint ac wedi rhoi profiad twrnamaint i chwaraewyr Cymru. Ers hynny mae Charlie Crew, a gymerodd ran yn y twrnamaint hwnnw, wedi cael ei alw i Dîm Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol CBDC: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan GBDC i gyfleusterau ar draws Gogledd Cymru ac mae’n gam allweddol arall i adeiladu diwydiant pêl-droed yng Nghymru sy’n cynrychioli cenedl bêl-droed fodern, flaengar.
“Rydym yn falch iawn o allu buddsoddi ein harian mewn safleoedd pêl-droed allweddol ar draws Gogledd Cymru wrth i ni baratoi i gynnal Pencampwriaeth dynion D19 UEFA ym Mangor, Bwcle, Caernarfon, Bae Colwyn, Dinbych, Caergybi, Penmaenmawr, Y Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.” Football Association of Wales | Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Hensol, Pontyclun, CF72 8JY www.faw.cymru | T 029 2043 5830 | F 029 2049 6953
Mae datblygu pêl-droed yng Nghymru wedi bod yn flaenoriaeth strategol i GBDC ac mae’r buddsoddiad hwn o £3m yn dilyn cyllid sylweddol arall sy’n cael ei ddefnyddio i dyfu’r gêm.
Cyhoeddodd y Cymru Football Foundation yn ddiweddar ei fod wedi buddsoddi £17m ers 2022 i brosiectau ledled y wlad i ddatblygu cyfleusterau pêl-droed sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Yn y cyfamser, cyhoeddwyd y buddsoddiad unigol mwyaf erioed i JD Cymru Premier eleni gyda dros £6m yn cael ei neilltuo ar gyfer datblygu’r gynghrair trwy gynllun strategol newydd.
Bydd y buddsoddiad Pencampwriaeth D19, y bydd DCMS a’r English Premier League yn cyfrannu tuag ato, hefyd yn cael effaith ar strategaeth JD Cymru Premier gan fod llawer o’r lleoliadau a fydd yn derbyn cyllid yn cynnal clybiau sy’n cymryd rhan neu’n anelu at fod yn y JD Cymru Premier.
Mae rhagor o wybodaeth am y Bencampwriaeth D19 ar gael drwy fynd i wefan UEFA.
Training Venues:
- Lanelian Road, Colwyn Bay
- Colliers Park, Gresford
- The Globe, Buckley
- Memorial Playing Fields, Ruthin
- Belle Vue, Rhyl
- The New Oval, Holyhead
- Cae Sling, Penmaenmawr
The very best of young talent from across the continent will come to Wales for the U19 Championship as the tournament isknown for featuring the stars of the future, with Kylian Mbappè and Erling Haarland being previous participants. In recent years, Cymru have qualified twice for the U17 edition of the tournament and provided Welsh players with tournament experience. Charlie Crew, who took part in that tournament has since been called up to the Cymru National Team.
Noel Mooney, FAW CEO, said: “This is a significant investment from the FAW into facilities across North Wales and is another key step in building a Welsh football industry that represents a modern, progressive football nation.
“We are delighted to be able to invest our money into key football sites across North Wales as we prepare to host the men’s UEFA U19 Championship at stadiums in Bangor, Buckley, Caernarfon, Colwyn Bay, Denbigh, Holyhead, Penmaenmawr, Rhyl, Ruthin and Wrexham.”
Developing Welsh football has been a strategic priority for the FAW and this £3m investment follows other significant funding that is being used to grow the game.
The Cymru Football Foundation recently announced that since 2022, it has awarded £17m into projects across the country to develop fit-for-future football facilities.
Meanwhile, the largest ever single investment into the JD Cymru Premier was also announced this year with over £6m being ringfenced for the development of the league through a new strategic plan.
The U19 Championship investment, which DCMS and the English Premier League will contribute towards, will also have an impact on the JD Cymru Premier strategy as many of the venues that will receive funding host clubs participating in or are aspiring to be in the JD Cymru Premier.
More information on the U19 Championship can be found by visiting the UEFA website.