Ydych chi’n ffan cerddoriaeth neu’n gasglwr finyl? Angen arnoch ambell anrheg Nadolig i rywun? Dewch draw i Tŷ Pawb ddydd Sadwrn yma rhwng 10am-4pm!
Mae Tŷ Pawb ar fin cynnal Ffair Recordiau fwyaf Cymru yng nghanol tref Wrecsam ar ddydd Sadwrn rhwng 10am-4pm.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim, a gydlynir mewn partneriaeth â siop recordiau chwedlonol yr Wyddgrug VOD Music, yn cynnwys 36 o werthwyr recordiau cenedlaethol sy’n gwerthu finyl, CD’s, DVD’s, memorabilia a mwy.
Hwn fydd y drydedd ffair recordiau a gynhelir gan Tŷ Pawb, ac yn seiliedig ar ffigurau ymwelwyr blaenorol, disgwylir y bydd siopwyr yn llenwi’r neuadd farchnad fywiog a’r Ardal Fwyd rhyngwladol.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hefyd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, setiau DJ a Bar Sgwâr/Square Bar Tŷ Pawb sy’n gweini diodydd alcoholig a meddal.
Dywedodd Swyddog Digwyddiadau Tŷ Pawb, Morgan Thomas, “Mae’n arwyddocaol fod ffair recordiau o’r maint hwn yn dod i galon Wrecsam o gofio am y sîn gerddorol gryf sy’n bodoli yn y dref. Cafwyd presenoldeb da iawn mewn digwyddiadau blaenorol ac fel lleoliad cymunedol diwylliannol rydym yn hynod o falch i gynnal ffair arall mewn partneriaeth â Colin a Tom Trueman o VOD Music.”