Dyma’r newyddion diweddaraf am ein cyhoeddiad fis Hydref mewn perthynas â ffioedd ar gyfer clybiau brecwast ysgolion.
Daeth gweithrediad y ffioedd yn dilyn ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd a gynhaliwyd yn ystod hydref 2017.
Bu penderfyniad i weithredu ffi o £1 i gyfrannu at gostau elfennau goruchwylio’r Clybiau Brecwast mewn ysgolion cynradd.
Bydd y ffi newydd yn dod i rym ddydd Llun, 4 Mawrth.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Pam bod angen y ffi?
Ers 2004, mae sawl ysgol gynradd wedi bod yn rhedeg y cynllun clwb brecwast am ddim. Mae 51 ysgol nawr yn rhedeg y cynllun hwn.
Mewn gwirionedd, dim ond am hanner awr cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau sydd angen i’r elfen “brecwast am ddim”, a oedd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn wreiddiol, fod ar gael.
Mae ysgolion wedi cael hi’n anodd recriwtio staff am hanner awr yn unig, felly mae’r staff goruchwylio wedi bod yn cael eu cyflogi am awr bob dydd – gan ddarparu gofal plant di-dâl cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau’n swyddogol.
Bydd cyfnod olaf y gwasanaeth i’w gael am ddim o hyd i bob disgybl, ond i’r rhieni neu warcheidwaid hynny sydd eisiau mynd â’u plant i’r ysgol yn ystod cyfnod cyntaf y cynllun, byddwn yn codi ffi o £1 y plentyn y dydd, er mwyn cyfrannu at gostau’r oruchwyliaeth sydd ei hangen.
Er enghraifft, os yw’r diwrnod ysgol yn cychwyn am 8:50am, dim ond ar y plant sy’n cyrraedd yno rhwng 7:50am a 8.20am y byddwn yn codi ffi.
Bydd yr amseroedd yn amrywio o ysgol i ysgol, felly bydd angen i rieni wirio gydag ysgol eu plentyn i wybod rhwng pa amseroedd y codir ffi.
Ni fydd rhaid i blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dalu’r ffi hon.
Bydd y cynllun yn parhau i gael ei gynnal am oddeutu awr y dydd yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan, cyn amser cychwyn swyddogol y diwrnod ysgol.
Sut ydw i’n talu?
Bydd modd i rieni dalu ar ein gwefan – chwiliwch ar yr e-siop am “brecwast” neu “clwb brecwast” ar gyfer yr ysgol berthnasol – neu mae modd iddynt wneud taliadau arian parod i uwch oruchwyliwr y clwb brecwast.
(Nodwch na fydd goruchwylwyr yn gallu darparu newid, felly mae’n rhaid i rieni sicrhau eu bod yn anfon y swm cywir).
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU