Mae’r Cyngor bellach wedi cytuno ar gyllideb 2018/19 felly rydym am gael cyfnod ymgynghori pellach ynglŷn â’r cynigion i gyflwyno ffioedd parcio mewn tri o’n parciau gwledig ac am barcio i bobl anabl mewn meysydd parcio a redir gan y Cyngor.
Dyma’r cynigion:
- Tâl dyddiol o £1 i ymwelwyr i Barciau Gwledig Melin y Nant, Dyfroedd Alyn a Thŷ Mawr, a chynnig trwydded barcio flynyddol rhatach am £50.
- Cyflwyno ffioedd parcio i’r anabl yn unol â thariff y rheiny sydd heb anabledd ar draws holl feysydd parcio a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam lle mae ffioedd yn berthnasol ac, fel consesiwn, rhoi un awr ychwanegol na’r hyn a dalwyd amdano i ddeiliaid bathodyn glas anabl.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd yr ymgynghoriad statudol hwn yn cael ei gynnal o 1 Mawrth 2018 tan 29 Mawrth 2018. Dylai unrhyw un sy’n dymuno ymateb i’r ymgynghoriad wneud hynny’n ysgrifenedig a’i anfon at:
Pennaeth yr Amgylchedd a Chynllunio, Adran yr Amgylchedd, De Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, LL13 9PW.
Neu gallwch e-bostio’ch ymateb at: parking@wrexham.gov.uk
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU