Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffotograffwyr Lleol yn Dogfennu Bywyd yn ystod y Cyfnod Clo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ffotograffwyr Lleol yn Dogfennu Bywyd yn ystod y Cyfnod Clo
ArallPobl a lle

Ffotograffwyr Lleol yn Dogfennu Bywyd yn ystod y Cyfnod Clo

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2020 9:10 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Rainbow
st Mary's school was open to children of key workers during lockdown. The school have added a splash of colour to the window. The rainbow has become a symbol of hope during the pandemic
RHANNU

Blaengwrt Amgueddfa Wrecsam yw lleoliad arddangosfa ffotograffig newydd am fywyd yn ystod y cyfnod clo yn Wrecsam. Mae’r arddangosfa awyr agored o gyfres o ddelweddau gan y ffotograffwyr lleol, Craig Colville a Carwyn Rhys Jones, yn rhoi cipolwg o rywfaint o effaith pandemig y coronafeirws a’r cyfnod clo ar y gymuned leol yn ystod ychydig fisoedd cyntaf yr argyfwng.

Roedd y ffotograffydd proffesiynol Craig Colville wedi bod yn gweithio gydag Amgueddfa Wrecsam ar Wrecsam 2020, sef prosiect ffotograffig oedd yn cofnodi bywyd yn y fwrdeistref sirol, a ysbrydolwyd gan y ffoto-ohebyddion gwych, Philip Jones-Griffiths, Henri Cartier-Bresson a Dorothea Lange. Pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, ddechrau’r cyfnod clo ar Fawrth 23 mewn ymateb i bandemig Covid-19, golygodd hynny na fyddai Wrecsam 2020 yn flwyddyn arferol o gwbl.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Meddai Craig Colville, “Mae dogfennu sut y mae Covid wedi effeithio ar fywyd yn Wrecsam wedi bod yn brofiad heriol ond hynod foddhaol. O dynnu lluniau staff yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn gwisgo haenau o PPE ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn, i waith brwdfrydig y gwirfoddolwyr yn yr HWB PPE, roeddwn yn gobeithio dogfennu sut y mae bywyd bob dydd wedi newid mor ddramatig dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Mae ffotograffiaeth yn aml yn cael ei anwybyddu fel dull o ddogfennu, hysbysu ac adrodd hanesion, a gellir ei ddefnyddio i ddwyn pobl i gyfrif. Fy ngobaith yw y bydd fy ngwaith i’n gwneud yr uchod i gyd.

Rydw i wir yn edrych ymlaen at gael gweld rhai o ddelweddau’r prosiect yn cael eu harddangos yn yr awyr agored yn yr amgueddfa, gan fy mod yn credu fod arddangosiadau awyr agored yn ffordd wych o ddangos gwaith ffotograffig i gynulleidfa.”

Yn gynnar yn ystod y cyfnod clo, daeth Amgueddfa Wrecsam yn ymwybodol bod y ffotograffydd lleol, Carwyn Rhys Jones, hefyd yn ceisio cofnodi effaith y pandemig ar Wrecsam. Gwahoddodd staff yr amgueddfa ef i ymuno yn y prosiect a chynnig cofnod ehangach o’r cyfnod clo.

Meddai Carwyn Rhys Jones, “Fe ddechreuais i dynnu lluniau yn ystod y cyfnod clo am fy mod yn teimlo bod angen dogfennu hyn, gan y byddai’n rhan o’n hanes ni. Roeddwn i’n eistedd yn y tŷ ac yn teimlo bod y byd wedi dod i stop yn ddirybudd, a bod angen i mi archwilio beth oedd yn digwydd yn Wrecsam wrth i mi fynd am dro bob diwrnod. O dynnu lluniau strydoedd gwag Wrecsam, datblygodd y prosiect i ddogfennu pobl leol Wrecsam. Aeth y prosiect o nerth i nerth i gyrraedd yr hyn sydd gennym ni heddiw. Roeddwn i’n ceisio llunio dyddiadur gweledol o’r hyn oedd yn mynd ymlaen a sut roedd pobl yn teimlo am y pandemig hwn o’u profiadau cadarnhaol a negyddol. Fe gytunais i fod yn rhan o’r prosiect hwn gan fy mod yn teimlo ei fod yn mynd law yn llaw â’r hyn roeddwn i’n ceisio ei wneud, sef dogfennu hanes. Roeddwn i hefyd o’r cychwyn cyntaf eisiau i fy ffotograffau fod yn rhan o archif a fyddai’n cael ei chadw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael dysgu am y cyfnod penodol hwn mewn hanes.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, “Fe hoffem ni ddiolch i Craig a Carwyn am fod yn rhan o’r prosiect hwn, ac am ddarparu cofnod gweledol i ni o sut y mae’r pandemig wedi effeithio ar fywyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae pob llun yn adrodd stori, a dyna i chi straeon hynod ydyn nhw. Er fod yr amgueddfa wedi ailagor ers Awst y 3, bu i ni benderfynu arddangos y ffotograffau ar y blaengwrt i sicrhau y gallai cymaint o bobl ag sy’n bosib ddod i weld yr arddangosfa, ac oherwydd fod pobl yn teimlo’n fwy hyderus yn yr awyr agored.”

Mae’r arddangosfa’n agor ar Medi 23, 2020 a bydd yno i’w gweld tan Mawrth 21, 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01978 297460 neu anfonwch neges e-bost i museum@wrexham.gov.uk.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Face Masks Cofiwch gael gwared ar fasgiau/gorchuddion wyneb mewn modd cyfrifol
Erthygl nesaf Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English