Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam
ArallPobl a lle

Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2020 9:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ingot Plwm Rhufeinig Unigryw mewn Arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam
RHANNU

Ar Medi 21, bydd Amgueddfa Wrecsam, am y tro cyntaf yn arddangos ingot plwm Rhufeinig a ddarganfuwyd ger Yr Orsedd, i’r gogledd o Wrecsam y llynedd.

Cafodd yr ingot ei ddarganfod gan ddatguddiwr lleol Rob Jones wnaeth hysbysu’r Swyddog Darganfyddiadau lleol (GDd Cymru) ar gyfer Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru (PAS Cymru) a leolir yn Amgueddfa Wrecsam ar unwaith, gan alluogi i’r gwrthrych gael ei archwilio tra roedd yn parhau yn y ddaear.

Dywedodd Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau “Mae’r ingot yn cynnwys arysgrif wedi’i fowldio’n fanwl sy’n cynnwys yr enw Marcus Trebellius Maximus, llywodraethwr talaith Britannia rhwng 63 a 69 Oed Crist, yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero. Ni chanfuwyd unrhyw arysgrifiadau eraill gyda’i enw erioed o’r blaen yn y DU, a dyna pam ei fod wedi denu cymaint o gyffro cenedlaethol.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Roedd cloddio plwm ac arian yn reswm sylweddol dros yr ymosodiad ar Brydain o dan yr Ymerawdwr Claudius yn 43 Oed Crist. Rydym yn gwybod fod y Rhufeiniaid wedi ecsbloetio’r adnoddau mwynau yn Sir y Fflint ac o bosibl Y Mwynglawdd, ond nid oes gennym dystiolaeth glir yn y safle diwethaf.

Nid yw’n hysbys ar hyn o bryd o ble y daeth y plwm yn ingot Yr Orsedd, er bod gwaith i gadarnhau hyn ar y gweill ym Mhrifysgol Lerpwl ar hyn o bryd. Rydym yn aros am ganlyniadau eu hymchwil.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dymuna Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gydnabod cefnogaeth Cyngor y Celfyddydau Lloegr/Arian Grant Prynu, yr Ymddiriedolaeth Headley, Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam a PAS Cymru i alluogi’r amgueddfa gadw’r ingot yma yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae ingot plwm Yr Orsedd yn ddarn arall yn y pôs hwn o hanes cynnar ein hardal ac fel cynghorydd lleol Yr Orsedd mae’n wych ei weld yn cael ei arddangos ble gall bryfocio a helpu i ateb cwestiynau am fywyd yma bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.”

Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Sadwrn 11am tan 4pm.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01978 297460.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Rainbow Ffotograffwyr Lleol yn Dogfennu Bywyd yn ystod y Cyfnod Clo
Erthygl nesaf Byddwch yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd… Byddwch yn Arwr. Ailgylchwch. Byddwch yn ddi-ofn yn wyneb gwastraff bwyd…Bydd wych. Ailgylcha.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School fundraising activities
Pobl a lleBusnes ac addysg

Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da

Hydref 26, 2026
Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English