Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi partneriaeth gyffrous arall ar gyfer 2019 gyda BreakOut West.
Yn 2018, daeth y bartneriaeth hon â rhaglen gyfnewid a oedd yn dod ag artistiaid o Orllewin Canada i berfformio yn ystod FOCUS Wales, ac fel cyfnewid roedd artistiaid o Gymru yn mynd ar daith dros yr Iwerydd i berfformio yn BreakOut West. Rydym yn gyffrous iawn bod y cyfnewid hwn yn digwydd eto yn 2019.
Bydd BreakOut West yn dangos 7 o artistiaid newydd cyffrous sydd yn dod o orllewin Canada yn ystod FOCUS Wales. Yr artistiaid yw:
Bad Animal – Alberta
FRANKIIE – British Columbia
Yes We Mystic – Manitoba
Gunner & Smith – Saskatchewan
Miesha & The Spanks – Alberta
Trash Hawks – Saskatchewan
Malcolm-Jay – Manitoba
Dywedodd Andy Jones, cyd-sylfaenydd a threfnydd cerddoriaeth: “Rydym yn falch iawn o gael adnewyddu’r bartneriaeth hon yn 2019. Mae BreakOut West yn cynnig cyfle gwych i artistiaid o Gymru i wneud eu camau cyntaf i mewn i’r farchnad gerddoriaeth Gogledd America, ac yn ogystal mae’r partneriaethau yn mynd i ddarparu porth i’r artistiaid gorau sy’n ymddangos o Ganada i gael mynediad at ddiwydiant cerddoriaeth y DU drwy Gymru.”
Yn ogystal â’r bartneriaeth hon, mae FOCUS Wales yn croesawu llawer o bobl broffesiynol yn y byd cerddorol o Ganada i Gymru, ac yn awyddus i groesawu mwy. Mae Tocynnau Blaenoriaeth ar gael drwy www.focuswales.com. Mae’r Tocynnau Blaenoriaeth yn cynnwys mynediad i holl sioeau byw FOCUS Wales, digwyddiadau cynhadledd, digwyddiadau cymysg, partïon preifat, yn ogystal â thudalen dynodedig ar wefan FOCUS Wales ac ap ffôn symudol, mynediad ar safle dirprwyo, ac ystyried sgyrsiau panel a chyfarfodydd unigol.
Yn ogystal, mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi dros 100 o’r artistiaid fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl yn Wrecsam ym mis Mai, gan gynnwys: Boy Azooga, Neck Deep, The Lovely Eggs, Skindred, a BC Camplight. I weld y rhestr lawn o’r artistiaid a gyhoeddwyd hyd yma, ac i brynu band garddwrn 3 diwrnod yr ŵyl, ewch i www.focuswales.com
Cynhelir FOCUS Wales 2019 ar 16, 17 ac 18 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau garddwrn 3 diwrnod llawn ar gyfer mynediad i holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar gael yn awr o www.focuswales.com/tickets am bris tocyn cynnar o £35 yr un.
Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR