Yn Wrecsam, yr ydym ni wedi ymrwymo i roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i’r plant ieuengaf. A dyna pam y gallech chi fod yn gymwys i gael gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer eich plentyn 2 oed.
Bydd y rhai sy’n gymwys yn cael hyd at 5 sesiwn (2 awr a hanner y dydd), bob wythnos yn ystod y tymor ysgol (o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed) â darparwr gofal plant wedi’i gymeradwyo gan Dechrau’n Deg.
Mae dewis o ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg neu Saesneg ar gael.
Mae pob darparwr sydd wedi’i gymeradwyo gan Dechrau’n Deg yn darparu dysgu drwy chwarae mewn amgylchedd sy’n galluogi o ansawdd uchel. Mae’r plant yn cael eu cefnogi gan ymarferwyr gofalgar a chymwys sy’n blaenoriaethu lles y plentyn.
Mae manteision gofal plant Dechrau’n Deg i’ch plentyn chi’n cynnwys:
- dysgu sgiliau newydd
- magu hyder
- archwilio a dilyn eu chwilfrydedd a’u diddordebau
- datblygu annibyniaeth
- datblygu creadigrwydd a dychymyg
- dysgu siarad Cymraeg
- gwneud ffrindiau
- cael llawer o hwyl dan do ac yn yr awyr agored
I gael eich derbyn ar gyfer lle gofal plant wedi’i ariannu, mae’n rhaid eich bod chi’n byw mewn ardal cod post cymwys. Cymerwch olwg ar dudalennau Cynnig Gofal Plant Dechrau’n Deg ar ein gwefan. Fel arall gallwch chi ofyn i’ch Ymwelydd Iechyd neu ein Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg Wrecsam drwy anfon e-bost at FlyingStartChildcare@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 297270.
Gallwch chi hefyd gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL