Rydym wedi derbyn adroddiad pellach o ddefnyddiwr Facebook yn gwerthu stondinau ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn bodoli yn Wrecsam ar dudalen Facebook gymunedol.
Mae’r adroddiad yn debyg i’r rhai a adroddwyd yn flaenorol gan ei fod yn gofyn i werthwyr ddefnyddio “teulu a ffrindiau” yn hytrach na nwyddau a gwasanaethau i wneud y taliad o £40. Mae’r neges bellach wedi cael ei dileu.
Y tro hwn roedd y digwyddiad ar gyfer ffair grefftau yn y Neuadd Goffa ar 1 a 2 Mehefin. Roedd un unigolyn â diddordeb, gan ofyn cwestiynau pellach am y digwyddiad, yn amheus pan roedd yn ymddangos bod yr ymatebwr yn defnyddio Google Translate, ac yna fe adroddodd hyn i’n Hadran Safonau Masnach.
Mae Safonau Masnach yn cynghori pawb i fod yn hynod o ofalus wrth archebu stondinau ar gyfer digwyddiadau a gwirio bod y digwyddiad yn bodoli cyn cymryd unrhyw gamau eraill. Mae’r Neuadd Goffa wedi cadarnhau nad yw’r digwyddiad hwn wedi cael ei drefnu.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae hyn yn hynod o ofidus ar gyfer trefnwyr digwyddiadau lleol gwirioneddol. Gyda phoblogrwydd Gwyliau Bwyd, Marchnadoedd Artisan a Ffeiriau Lleol yn Wrecsam, mae’n bwysig gwirio a gwirio eto, bod y digwyddiad yn bodoli a bod y gwerthwr yn ddilys.
“Mae e-bost neu alwad ffôn sydyn i’r lleoliad neu’r perchennog tir yn ffordd dda o wirio bod y digwyddiad yn un dilys ac os felly, pwy sy’n trefnu.”
Os ydych yn amau unrhyw negeseuon tebyg, anfonwch e-bost at tradstand@wrexham.gov.uk
Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo, dylech roi gwybod i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dolenni defnyddiol i gyngor ar ddelio â masnachwyr twyllodrus