Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, byddwn yn annog pobl i siarad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a beth rydyn ni’n ei wneud amdano.
Bydd staff yn Tŷ Pawb rhwng 11am a 1pm ddydd Mercher 5 Gorffennaf.
Fel rheol gyffredinol, pan mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei adrodd fel problem, bydd ymyraethau yn cael eu cynnig i geisio lliniaru’r ymddygiad problemus. Ond os nad yw hyn yn cael ei dderbyn, mae nifer o ddeddfwriaethau y gellir eu defnyddio, ac sydd wedi eu defnyddio.
Mae’r ymyraethau hyn wedi cynnwys Gorchmynion Ymddygiad Troseddol, Hysbysiadau a Rhybuddion Amddiffyn Cymunedol yn erbyn troseddwyr, Gorchmynion Cau ar eiddo a Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus mewn lleoliadau problemus.
Mae gan bobl sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yr hawl i ofyn am adolygiad achos mewn amgylchiadau arbennig. Y Sbardun Cymunedol yw’r adnodd a ddefnyddir i adolygu achosion arbennig. Ei nod yw sicrhau bod lefelau priodol o orfodaeth a chefnogaeth naill ai ar waith, neu wedi cael eu hystyried.
Gall unrhyw ddioddefwr sydd wedi rhoi gwybod am dri achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cyfnod o chwe mis godi Sbardun Cymunedol a gwneud cais am adolygiad achos. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.
Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar unrhyw un ohonom ac mae asiantaethau yno i helpu pan fydd ymddygiad yn peri niwsans, dychryn a gofid i’r rhai o’u cwmpas.
“Rwy’n annog pawb sy’n gallu mynychu’r digwyddiad, i fynd i weld yr hyn sy’n digwydd yn y cefndir pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei adrodd, sut mae’n cael ei drin a sut i adrodd amdano fel y gall camau priodol gael eu cymryd.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.