Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 11, 2026 10:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
RHANNU

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd lansiad swyddogol ein darpariaeth symudol newydd sbon i bobl ifanc, ‘Y Sylfaen’, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 17 Chwefror am 11am yn Nôl yr Eryrod.

Ym mis Ebrill y llynedd, llwyddodd Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam i sicrhau cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi prosiect uchelgeisiol gyda’r nod o gryfhau ymgysylltu â phobl ifanc ar draws y sir.

Mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i brynu a thrawsnewid fan yn glwb ieuenctid symudol llawn offer, wedi’i gynllunio i fynd at bobl ifanc yng nghanol eu cymunedau eu hunain.

Mae Y Sylfaen wedi’i greu i alluogi ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a allai fod yn anoddach eu cyrraedd, ac i ddarparu presenoldeb cadarnhaol mewn ardaloedd sy’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trwy gynnig cymorth, gweithgareddau ac ymyrraeth gynnar, nod y ddarpariaeth yw lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a meithrin perthnasoedd cryfach rhwng pobl ifanc, teuluoedd a gwasanaethau lleol.

Mae datblygiad Y Sylfaen wedi bod yn fenter sylweddol, a ddaeth yn fyw trwy waith caled a chydweithrediad staff ar draws y Gwasanaethau Atal a Chymorth, partneriaid lleol, a’r bobl ifanc eu hunain. Fe wnaeth pobl ifanc o bob rhan o Wrecsam ddewis yr enw Y Sylfaen, cyfrannu at ddylunio’r tu allan, a gweithio ochr yn ochr ag artist graffiti lleol i ddod â’u gweledigaeth yn fyw. Mae’r holl waith trawsnewid wedi’i gwblhau gan gwmni lleol, gan sicrhau bod y prosiect wedi’i wreiddio’n gadarn yn y gymuned mae’n ei gwasanaethu.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Phil Wynn: “Rydyn ni’n hynod falch o’r gwaith a wnaed ar y prosiect hwn hyd yma ac yn gobeithio y bydd Y Sylfaen yn gallu cynnig darpariaeth sy’n cael ei chroesawu’n fawr yn ein cymunedau am flynyddoedd lawer i ddod.

 “Bydd y digwyddiad lansio yn cynnig cyfle i blant, pobl ifanc, teuluoedd a phartneriaid archwilio ein darpariaeth newydd gyffrous yn ogystal â chyfarfod staff, ac ymgysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau sy’n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc yn Wrecsam.

“Y tu mewn i Y Sylfaen, bydd ymwelwyr yn dod o hyd i ofod croesawgar sy’n cynnig gweithgareddau, ymyriadau a gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o gymorth sydd ar gael.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Heart tree - love your environment this Valentine's Day Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English