Mae swyddogion Cyngor Wrecsam wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru mai Amgueddfa Wrecsam yw’r opsiwn a ffefrir am gartref i Amgueddfa Pêl-droed Cymru.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan Dafydd Elis Thomas AC, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Cafodd y cynigion ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed Genedlaethol eu crybwyll gan Lywodraeth Cymru yn yr haf, gyda’r nod o weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i arddangos hanes pêl-droed Cymru mewn lleoliad priodol.
Wrecsam ydi cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru gyda chysylltiadau hanesyddol cryf â Chymdeithas Bêl-droed Cymru; yn wir, sefydlwyd y gymdeithas mewn cyfarfod yn y Wynnstay Arms ar Stryt Yorke yn 1876.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae’r cynigion ar gyfer yr Amgueddfa ymysg nifer o brosiectau pêl-droed sy’n digwydd yn Wrecsam, gan gynnwys:
- Gwella porth Ffordd yr Wyddgrug sy’n arwain i mewn i’r dref, gan gynnwys yr orsaf drenau a’r Cae Ras;
- Canolfan datblygu pêl-droed newydd ym Mharc y Glowyr;
- Gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu canolfannau pêl-droed cymunedol newydd;
- Gwaith gan y Cyngor a Chlwb Pêl-droed Wrecsam i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer cae hyfforddi
Mae Amgueddfa Wrecsam wedi dangos diddordeb mewn pêl-droed ers peth amser, gan gaffael Casgliad Pêl-droed Cymru yn 2000 trwy gymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae wedi bod yn ddymuniad i gynnal arddangosfa barhaol am y gêm ers hynny.
Y gobaith yw y bydd adeilad yr amgueddfa yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru a chreu gofod mwy ar gyfer Amgueddfa Wrecsam trwy ddefnyddio’r gofod sydd ar gael ar lawr cyntaf yr adeilad.
Mae gan yr amgueddfa botensial ryngwlado
Dywedodd Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau Cyngor Wrecsam: “Rydym ni’n bendant yn croesawu’r newyddion yma, ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gweld potensial Amgueddfa Wrecsam fel cartref i Amgueddfa Pêl-Droed Cymru.
“Diolch i berfformiad y tîm cenedlaethol, mae pêl-droed Cymru wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb dros y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad mae gan yr amgueddfa hon y potensial i ddod yn atyniad rhyngwladol yn ogystal ag un cenedlaethol.
“Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym ni wrth ein bodd efo’r newyddion yma. Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yr ydym ni’n ymfalchïo ynddynt, ac mae’n braf cael gwybod y bydd yr etifeddiaeth honno gyda’r potensial i barhau i’r dyfodol gyda’r posibilrwydd o Amgueddfa Pêl-Droed Cymru yn dod i Wrecsam.
“Bydd datblygiad yr amgueddfa newydd hefyd yn golygu y gallwn barhau i ddatblygu Amgueddfa Wrecsam – un o nodau’r amgueddfa oedd cael rhyw fath o arddangosfa am hanes pêl-droed yng Nghymru, oherwydd y cysylltiad cryf â’r dref, a byddwn yn parhau i arddangos hyn ochr yn ochr â’r amgueddfa newydd.
“Mae swyddogion a chynrychiolwyr Cyngor Wrecsam wedi bod yn trafod hyn ers peth amser gyda Llywodraeth Cymru a’r ymgynghorwyr, ac maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod yr amgueddfa yn dod i Wrecsam, ac felly hoffaf ddiolch iddynt, ac ar ran y Bwrdd Gweithredol, am eu hymroddiad.”
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU