Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall newidiadau bach gael effaith gadarnhaol enfawr ar y rhai sy’n byw â dementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle
Tidy Wales Awards 2025
Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Digwyddiadau Pobl a lle
Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall newidiadau bach gael effaith gadarnhaol enfawr ar y rhai sy’n byw â dementia
Pobl a lle

Gall newidiadau bach gael effaith gadarnhaol enfawr ar y rhai sy’n byw â dementia

Diweddarwyd diwethaf: 2022/05/19 at 9:42 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Small changes can make a huge positive impact
RHANNU

Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-22

Dan arweiniad y Gymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

Cynnwys
Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-22 Sut allwch chi helpuO’r golwg yng ngolwg pawbDatblygiadau mewn technoleg

Wrth godi ymwybyddiaeth am ddementia, dylid cofio pum neges allweddol:

  1. NID yw dementia yn rhan naturiol o heneiddio – Nid pawb fydd yn datblygu dementia pan fyddant yn mynd yn hŷn ac nid yw pawb sy’n datblygu dementia yn hen. Er bo’r achosion yn brin, mae yna bobl yn eu hugeiniau sydd wedi cael diagnosis o ddementia.
  2. Mae dementia yn cael ei achosi gan glefydau ar yr ymennydd – Fel y gall unrhyw organ arall yn y corff gael ei niweidio gan glefyd, mae dementia yn cael ei achosi pan fydd clefyd yn niweidio’r ymennydd yn gorfforol.
  3. Nid yw dementia yn golygu colli eich cof yn unig – Mae’r ymennydd yn rheoli amrywiaeth o swyddogaethau ar wahân i’r cof. Gall cyfathrebu, sgiliau echddygol, dilyniannu a’r golwg gael eu heffeithio gan ddementia.
  4. Mae yna fwy i’r unigolyn na’r dementia –Yn yr un modd a byddem yn edrych ar unigolyn â chanser neu ddiabetes ac yn gweld yr unigolyn cyn y salwch, mae yna fwy i’r unigolyn na’r dementia.
  5. Mae’n bosibl byw yn dda gyda dementia – I bobl sy’n byw â dementia, efallai byddant yn dal yn gallu gweithio, gyrru a chael perthnasau. Byddai beth allent ei wneud, ac am ba mor hir, yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn.

Mae’r term ‘byw’n dda’ yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, ac nid yw’n golygu nad yw byw â dementia yn dod gyda’i heriau.  Mae’n dal yn bosibl i fyw’n dda er gwaetha’r heriau hyn a gall bobl yn y gymuned helpu gyda hyn.

Sut allwch chi helpu

Mae pob math o ffyrdd y gall pobl helpu’r rhai sy’n byw â dementia trwy wneud newidiadau bach i’r ffordd y maent yn ymdrin â’r pwnc.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025
  • Newidiwch eich iaith – Pan fyddwch yn siarad am ddementia, peidiwch â defnyddio geiriau negyddol sy’n cyfleu meddyliau drwg am y cyflwr. Enghraifft dda yw dweud bod rhywun yn “byw â dementia”, yn hytrach na “dioddef ohono”.
  • Ewch i weld rhywun sydd â dementia – Gall y pum munud neu’r awran fach honno yn eich amser rhydd roi hwb cadarnhaol i rywun sy’n byw â dementia.
  • Byddwch yn amyneddgar ag eraill – Mae’n hawdd mynd yn rhwystredig pan fyddwch yn gorfod ailadrodd yr un atebion i’r un cwestiynau dro ar ôl tro. Gall fod yn rhwystredig pan fyddwch yn ceisio annog cof rhywun hefyd.  Arhoswch, cofiwch nid eu bai nhw ydi o eu bod yn gofyn yr un peth eto neu ddim yn gallu cofio atgof o’r diwrnod o’r blaen.  Efallai bydd angen i chi ddweud yr un peth drosodd a throsodd ond bydd gwylltio neu weiddi ar rywun sy’n byw â dementia ond yn eu cynhyrfu.  Ni fyddant yn cofio pam oeddent yn teimlo’n drist y tro nesa iddynt eich gweld chi ond bydd y teimlad yn dal yna.
  • Ymunwch neu dechreuwch grŵp llywio Cymunedau sy’n Deall Dementia – Ewch ati i gael y gymuned yn rhan o ledaenu ymwybyddiaeth a sicrhau fod bywyd i’r rhai sy’n byw â dementia mor gyfforddus â phosibl.

Mae yna sawl ffordd arall y gallwch gymryd rhan a chefnogi’r rhai sy’n byw â dementia.  Efallai y byddwch yn synnu bod siopau yn eich cymuned yn cymryd rhan yn y newid hwn hefyd.

O’r golwg yng ngolwg pawb

Mae archfarchnadoedd yn gwneud cymaint o bethau cadarnhaol nad yw llawer ohonom yn sylwi arnynt.  Er enghraifft, mae rhai archfarchnadoedd yn agor yn gynt i’r rhai sy’n byw â dementia ac maent yn troi’r cerddoriaeth i lawr nei i ffwrdd yn gyfan gwbl i leihau lefelau straen.

Maent yn tynnu’r carpedi du yr ydych yn eu gweld yn nhu blaen y siop.  Efallai bod hyn yn ymddangos yn rhyfedd i chi ond meddyliwch am rywun sydd â nam golwg oherwydd dementia.  Iddyn nhw, mae’r mat yn edrych fel twll mawr yn y llawr y gallant ddisgyn i mewn iddo felly ni fyddant yn mynd yn agos ato gan eu bod yn ofn disgyn i mewn.  Mae symud y mat yn cael gwared â’r pryder.

Mae gan rai archfarchnadoedd staff pwrpasol a fydd yn helpu pobl â dementia wrth iddynt ymweld â’r siop ac yn eu helpu gyda’u harian os yw cyfrif yn anodd iddynt.

Dyma i chi lond llaw o lawer mwy o effeithiau cadarnhaol sy’n digwydd ar eich carreg drws.  Allwch chi feddwl am un y gallwch ddechrau ei wneud?

Datblygiadau mewn technoleg

Ychwanegiad newydd i’r ffordd y gall y rhai sy’n byw â dementia gael eu gofalu amdanynt yn fwy effeithiol yw drwy gyflwyno technoleg newydd anhygoel.  Enw’r ddyfais yw RITA, sy’n sefyll am Gweithgareddau Therapi Hel Atgofion Rhyngweithiol.

Mae’n dod ar ffurf sgrîn cyffwrdd neu lechen hawdd ei ddefnyddio i roi adloniant a therapi i helpu cleifion i gofio a rhannu pethau o’u gorffennol yn defnyddio cerddoriaeth a gwylio adroddiadau newyddion o ddigwyddiadau hanesyddol.  Mae’r nodweddion eraill yn cynnwys ffilmiau, carioci a chwarae gemau.

Mae llawer o fanteision i’w cael o’r ddyfais hon.  Mae’n helpu teuluoedd a gofalwyr i gyfathrebu â’r unigolyn yn fwy effeithiol ac mae’n rhoi canlyniadau lles a hwyliau cadarnhaol i’r claf a’r gofalwr.

Gellir creu ffeil bersonol gyda holl anghenion yr unigolyn a’r hyn y mae’n ei hoffi – fel ei hoff gerddoriaeth a ffilmiau.  Mae hyn yn creu ffordd fwy personol ac effeithiol i ofalu am yr unigolyn hwnnw yn unol â’i ofynion meddygol a’i ddiddordebau personol, a allai fod yn ffactor ymlaciol i leihau pryder a straen.

Rhannu
Erthygl flaenorol Demin For Dementia Day 2022 Gwisgo denim er budd dementia
Erthygl nesaf GWYLIWCH: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia (Cyfweliad Alwyn Jones) GWYLIWCH: Wythnos Gweithredu Dros Ddementia (Cyfweliad Alwyn Jones)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg Mehefin 27, 2025
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 27, 2025
Tidy Wales Awards 2025
Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mehefin 27, 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 26, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Terry Fox Run
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd

Mehefin 27, 2025
Tidy Wales Awards 2025
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!

Mehefin 27, 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
DigwyddiadauPobl a lle

CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025

Mehefin 26, 2025
Pontcysyllte aqueduct
Pobl a lle

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mehefin 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English