Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Achubwch eich deunyddiau ailgylchu o’r bin!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Achubwch eich deunyddiau ailgylchu o’r bin!
Pobl a lleY cyngor

Achubwch eich deunyddiau ailgylchu o’r bin!

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 7, 2025 12:47 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Achubwch eich deunyddiau ailgylchu o'r bin!
RHANNU

Mae’r hydref wedi cyrraedd – mae’r dail yn newid lliw, mae trefn ar eich diwrnodau, ac mae’n amser perffaith i ailosod ein harferion. Dyna pam mae Cyngor Wrecsam yn ymuno â Cymru’n Ailgylchu i annog ein hymwelwyr i feddwl cyn iddyn nhw daflu – p’un a ydych chi ar ein safle neu allan yn unrhyw le yng Nghymru.

Mae Cymru eisoes yn gwneud yn wych fel yr ailgylchwr ail orau yn y byd – mymryn y tu ôl i Awstria – ond dydyn ni ddim am aros yn fanno. Gyda’ch help, gallwn ni danio ein hunain i rif un.

A diolch i’r gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd (Ebrill 2024), mae’n haws nag erioed ailgylchu pan fyddwch chi oddi cartref. Fe welwch chi finiau ailgylchu pan fyddwch chi allan yn ymweld â lleoliadau dan do sy’n eiddo i’r Cyngor. Felly cyn i chi daflu unrhyw beth i’r bin, cymerwch eiliad i edrych ar yr arwyddion a’i roi yn y lle iawn. Mae’n arfer cyflym sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Pa finiau y gallwch chi eu defnyddio i ailgylchu ar y safle:

  • Poteli plastig, caniau diodydd a chartonau
  • Gwydr 
  • Bwyd
  • Papur/cardbord
  • Gwastraff cyffredinol

Pam mae’n bwysig – mae pob eitem yn cyfrif

Bob tro rydych chi’n ailgylchu, rydych chi nid yn unig yn cadw sbwriel allan o’r bin – ond rydych chi’n arbed ynni, adnoddau, ac yn dod â ni gam yn nes at y brig.

Oeddech chi’n gwybod?

  • Mae ailgylchu metel a gwydr yn defnyddio 95% yn llai o ynni na’i wneud o ddeunyddiau crai – a gellir ei ailgylchu yn ddiddiwedd heb golli ansawdd. Peidiwch â gadael i’r ffoil, y caniau diodydd neu’r poteli fynd yn wastraff!
  • Gall un can wedi’i ailgylchu yn unig arbed digon o ynni i bweru teledu am 2 awr.

Gadewch i ni danio Cymru i rif 1

Gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd mwyaf y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth. Drwy ddefnyddio’r bwyd rydych chi’n ei brynu – ac ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta – byddwch yn helpu i leihau gwastraff.

Beth am roi eich sgiliau ar brawf?

Wynebwch yr Her Bwyd Doeth gyda Cymru’n Ailgylchu, dysgu ryseitiau syml i arbed amser ac arian, a chael cyfle i ennill gwobr flasus o Gymru.

Felly, p’un a ydych chi’n mwynhau diwrnod allan ar ein safle, yn mynd i ddigwyddiad, neu yn y swyddfa – cofiwch, meddyliwch cyn i chi daflu. Gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau mai Cymru yw ailgylchwr gorau’r byd. Amdani!

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol Hand on steering wheel Y B5605 yn Nhrecelyn yn ailagor
Erthygl nesaf School transport escort Swydd: Hebryngwr Ysgol Llanw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English