Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Profi’r terfynau – EV Rally 2025
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Profi’r terfynau – EV Rally 2025
Pobl a lle

Profi’r terfynau – EV Rally 2025

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 8, 2025 4:35 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
EV rally
RHANNU

Ar 22 a 23 Hydref, bydd 4ydd EV Rally Cymru yn profi terfynau cerbydau trydan a chapasiti seilwaith cerbydau trydan mewn rhannau hardd o Gymru.

Ac eleni y newyddion mawr yw mai Wrecsam yw’r ddinas fydd yn lansio’r digwyddiad cyfan, sy’n golygu y gallwch chi ddod i weld dechrau’r digwyddiad sy’n cynnwys 50+ o gerbydau trydan.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae Costelloes EV wedi chwarae rhan fawr wrth reoli, cynnal a thyfu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y fwrdeistref. Y llynedd fe wnaethant noddi siecbwynt ar hyd llwybr EV Rally Cymru, ond eleni maen nhw wedi mynd gam ymhellach trwy noddi man cychwyn swyddogol rali 2025.

Yn y rali hon, bydd cerbydau trydan yn cael eu rhoi ar brawf mewn amodau go iawn ar ffyrdd Cymru, lle bydd timau’n teithio ar lwybrau prydferth a thrwy drefi llewyrchus, gan ymweld â lleoliadau hardd fel Ynys Môn, Sir Benfro a Chaerfyrddin.

Wedi’i noddi gan Trafnidiaeth Cymru, bydd y digwyddiad ffordd trydanol hwn yn tynnu sylw at y cynnydd rhyfeddol y mae Cymru yn ei wneud o ran trafnidiaeth lân ac ynni cynaliadwy.

Gan ganolbwyntio ar Ogledd a De-orllewin Cymru, bydd y digwyddiad yn arddangos pob agwedd ar y daith a sut y gall cerbydau trydan chwarae eu rhan wrth ddatgarboneiddio’r system drafnidiaeth.

Bydd y digwyddiad hefyd yn dangos sut mae argaeledd pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi gwella’n fawr. Yn Wrecsam mae nifer o bwyntiau gwefru ledled y fwrdeistref sirol… beth am gael golwg ar y map hwn i weld ble allwch chi wefru’ch car?

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd:  “Mae cynnal dechrau’r EV Rally eleni yn newyddion gwych i Wrecsam ac yn ffordd wych o arddangos ein seilwaith cynyddol o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y fwrdeistref sirol. Mae argaeledd y pwyntiau gwefru hyn yn cynyddu drwy’r amser – at ddefnydd ymwelwyr a phreswylwyr. Rwy’n gobeithio, trwy eu defnyddio i deithio ar hyd y wlad, y bydd yr EV Rally yn dangos i bawb bod cerbydau trydan yn ffordd ymarferol a chynaliadwy ymlaen.”

Dywedodd David Costelloe, rheolwr gyfarwyddwr Costelloes EV:  “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o EV Rally Cymru unwaith eto, ac yn arbennig o falch o gynnal y man cychwyn swyddogol yma yn Wrecsam. Mae ein gwaith gyda’r cyngor yn ymwneud â chreu seilwaith gwefru dibynadwy, sy’n addas i’r dyfodol ac o fudd i drigolion ac ymwelwyr. Mae’r rali yn ffordd wych o arddangos y cynnydd sy’n cael ei wneud ledled Cymru, ac rydyn ni’n gyffrous i helpu i daflu goleuni ar Wrecsam fel arweinydd o ran mabwysiadu ac arloesi gyda cherbydau trydan.”

Mae EV Rally 2025 yn cael ei chynnal gan Greenfleet, ei noddi gan Trafnidiaeth Cymru a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.

Rhannu
Erthygl flaenorol The Council Chamber in the Guildhall, Wrexham Fedrwch chi helpu? Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio angen aelodau o’r cyhoedd
Erthygl nesaf Côr Meibion Cantorion Gogledd Cymru Dewch draw i Gyngerdd Côr Elusennol y Maer ar 15 Tachwedd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English