Mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.
Yn Wrecsam, mae yna 304 o blant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Ac er bod gennym dîm ymroddedig o 39 o ofalwyr maeth a 51 o ofalwyr cysylltiedig, maent ond yn gallu darparu cymorth hanfodol i 120 o blant a phobl ifanc.
Yn anffodus, er bod nifer y plant sy’n derbyn gofal yn parhau i godi bob blwyddyn, mae nifer y gofalwyr maeth newydd sy’n cael eu cymeradwyo yn lleihau, sy’n achosi pryder. Felly rydym yn wynebu’r her o gadw ar yr un cyflymder â’r galw cynyddol ac rydym angen 30 o ofalwyr maeth newydd ar frys bob blwyddyn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
Roedd gan Faethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru – y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Mae Maethu Cymru Wrecsam wedi ymuno â’r ymgyrch newydd hon o’r enw ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach, ond sylweddol, sydd gan bobl a all wneud y byd o wahaniaeth i unigolyn sy’n derbyn gofal.
Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch, yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a’r rhai sy’n gadael gofal.
Roedd yr ymatebion gan y grwpiau hyn yn tynnu sylw at dri peth allweddol a oedd yn rhwystro gofalwyr posibl rhag ymholi:
- Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn sy’n derbyn gofal
- Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw
- Camddealltwriaeth ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr
Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gan ofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg, cynhwysol, ac yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
Mae Cath a Neil yn ofalwyr maeth hirdymor yn Wrecsam. Mae eu hamynedd a’u dyfalbarhad wrth oresgyn yr ansicrwydd o ran bwyd y mae eu plant maeth yn ei deimlo yn dangos mai meddylgarwch, tosturi a dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn yw’r ‘sgil’ pwysicaf sydd ei angen arnoch fel gofalwr. Dywedon nhw: “Roedd gennym yr holl sgiliau a oedd ei angen arnom i ddod yn ofalwyr maeth eisoes, ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddynt y sgiliau hefyd. I ni, mae dod yn ofalwyr maeth wedi bod yn broses ddysgu anferth – ond ar ôl troi at Faethu Cymru Wrecsam rydym yn sicr yn teimlo’n gartrefol.”
Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran gwasanaethau plant
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant, a gafodd ei gynnig yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, gan wneud ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.
Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu ddielw, a bydd yr angen am ofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn fwy nag erioed.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Wrecsam: “Mae ein gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Maethu Cymru Wrecsam yn gwneud gwaith anhygoel, yn cefnogi plant drwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. “Ond mae angen i ni recriwtio mwy o bobl anhygoel yn ein hardal i sicrhau bod yr holl blant lleol sydd ei angen yn cael cartref croesawgar a’r gofalwr maeth iawn ar eu cyfer.
“Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Wrecsam, bydd y tîm yn sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicaf oll, gallwch helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i rannu eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â Maethu Cymru Wrecsam.”
Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun, 8 Ionawr 2024 ar y teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol ac mewn amrywiol ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol ar draws Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad ewch i wefan Maethu Cymru Wrecsam neu ffoniwch 01978 295366 i siarad ag aelod o’n tîm recriwtio.