Mae Tŷ Pawb yn cymryd rhan ym menter Fy Nghoeden, Ein Coedwig, sef prosiect uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a Coed Cadw a fydd yn cynnig coeden i bob aelwyd yng Nghymru, a hynny am ddim.
Mae 295,000 o goed ar gael i’w bachu, a bydd eu plannu yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru. Anogir aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru i gasglu coeden, am ddim, o ganolfan ranbarthol agos iddyn nhw.
Mae deg rhywogaeth wahanol o goed brodorol a llydanddail ar gael i ddewis ohonynt, sef: Collen; Cerddinen; Draenen Wen; Bedwen Arian; Coeden Afalau Surion; Derwen Ddigoes; Cwyrosyn; Masarnen Fach; ac Ysgawen.
Gweler ble mae eich canolfan goed leol: https://www.woodlandtrust.org.uk/plant-trees/coeden-i-bawb-cymru/
I’r rhai sy’n methu â mynd i ganolfan i gasglu coeden, o 21 Tachwedd ymlaen bydd modd archebu un ar-lein a bydd yn cael ei chludo at y drws.
Darllenwch fwy: https://llyw.cymru/gall-pob-cartref-yng-nghymru-gasglu-phlannu-coeden-wrth-i-50-o-ganolfannau-agor-ledled-y-wlad
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI