Wrth i ni ddod at ddiwedd haf rhyfedd a phrysur iawn yn ein parciau gwledig, mae ein swyddogion yn adrodd tymor prysur iawn yn cynnwys cadw’r parciau yn rhydd rhag sbwriel.
Nid oedd modd iddynt gynnal sesiynau casglu sbwriel cymunedol blynyddol na defnyddio eu grwpiau o wirfoddolwyr oherwydd sefyllfa Covid-19 felly defnyddiodd staff a fu’n gweithio yn y Canolfannau Ymwelwyr cyn y cyfnod clo eu hamser i ddod i adnabod yr holl barciau yn y fwrdeistref sirol yn hytrach na’r rhai maent yn gweithio ynddynt fel arfer, ac fe wnaethant waith gwych.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG
Fe wnaethant sicrhau nad oedd y sbwriel yn gwaethygu drwy helpu i lanhau’r parciau’n drylwyr a chlirio’r sbwriel oedd yn cael ei adael ar ôl.
Roedd hyn ar ben y sesiynau casglu sbwriel wythnosol sy’n cael eu cynnal gan Geidwaid y Parc er mwyn sicrhau nad oes sbwriel ar y prif lwybrau ac yn y biniau.
Mae’r ffigurau o gasglu sbwriel yn dangos faint oedd yna i’w glirio, ac ers mis Ebrill mae’r her glanhau’n drylwyr wedi llenwi 45 bag o Bonc yr Hafod, 16 o Belle Vue, 12 o Acton, 2 neu 3 o bob parc arall, a gyda rhywfaint o gymorth gan ffrindiau a theulu maent wedi casglu 77 bag o sbwriel o Stryt Las yn unig!
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r ffigurau yma’n uchel iawn ac fe hoffwn i ddiolch i Sue ac Ann o’n Canolfannau i Ymwelwyr am eu hyblygrwydd a’u gwaith caled yn sicrhau bod y parciau’n parhau i edrych yn dda i ymwelwyr. Yn sicr fe aethant y tu hwnt i bob disgwyl i sicrhau y gallwn ni gyd fwynhau harddwch naturiol ein hamgylchedd heb iddo gael ei ddifetha gan sbwriel. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi neu defnyddiwch fin, a pheidiwch â disgwyl i neb arall gasglu sbwriel ar eich ôl chi.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG