Mae ‘na newyddion da iawn i wenyn wrth i Tŷ Mawr gyhoeddi gwelliannau i’w faes parcio gorlif gydag arwyneb amgylcheddol gyfeillgar a fydd yn caniatáu i ddŵr ddraenio ac i laswellt a blodau gwyllt dyfu drwyddo. Bydd yr ardal hefyd yn cael ei thirlunio gyda chloddiau gwenyn a gloÿnnod byw.
Mae’r parc eisoes wedi ennill statws gwenyn gyfeillgar cenedlaethol ac mae plant ysgol wedi bod yno i weld pa wenyn a gloÿnnod byw sy’n byw yno’n barod.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn dilyn y newyddion bod grant wedi’i ddyfarnu gan y cynllun Grant Cyfalaf Seilwaith Gwyrdd gyda chyfraniadau gan Gyngor Cymuned Cefn a Chyfeillion Tŷ Mawr.
Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf ac yn para am tua 6 wythnos. Bydd ychydig o anghyfleustra yn ystod y cyfnod hwn ond bydd y manteision yn glir pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Gallwch hefyd gymryd rhan yn y prosiect drwy fynd i ddigwyddiad “Gwên-yn” ar 2 Awst lle gallwch ddysgu mwy am wenyn wrth i chi ddilyn llwybr o amgylch y parc. Bydd cyfle hefyd i chi wneud eich gwesty chwilod eich hun ar Awst 16.
Gallwch ddarganfod mwy drwy anfon e-bost at countryparks@wrexham.gov.uk
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN