Bob blwyddyn, mae Gofalwyr Cymru, fel rhan o Ofalwyr y DU yn cynnal arolwg o ofalwyr i ddeall y sefyllfa o ran gofalu. Eleni, mae’r arolwg wedi dangos fod gofalwyr di-dâl yn ei chael hi hyd yn oed yn anoddach yn ariannol.
Rhai o’r canfyddiadau oedd fod 76% o ofalwyr di-dâl sy’n cael lwfans gofalwyr yn ei chael yn anodd o ran pwysau costau byw, Mae 48% yn gwario llai ar bethau hanfodol, gan gynnwys bwyd a gwresogi, a dywedodd 49% eu bod yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae mwy o fanylion am yr adroddiad ar wefan Gofalwyr y DU.
“Rydym wedi ceisio ei gwneud yn haws i ofalwyr gael y cymorth maent ei angen”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae arolwg Gofalwyr Cymru wedi dangos pa mor anodd yw hi i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Rydym yn gwybod o ddata’r cyfrifiad diweddaraf fod gennym dros 13,000 o ofalwyr di-dâl yn Wrecsam ac rydym wedi ceisio ei gwneud yn haws i ofalwyr gael y cymorth maent ei angen. Rydym yn parhau i wella gwasanaethau i ofalwyr di-dâl yn Wrecsam, ac rydym eisiau gwneud popeth a allwn i wneud ein gofalwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth, cefnogaeth a dewisiadau o ran seibiant sydd ar gael iddynt.”
Pa gymorth sydd ar gael?
Yn Wrecsam, gall gofalwyr di-dâl gael gafael ar gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor gan GOGDdC, a gall gofalwyr ifanc gael gafael ar gefnogaeth drwy Ofalwyr Ifanc WCD.
GOGDdC
Mae GOGDdC (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) yn cynnal grwpiau, yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cynnal asesiad o anghenion gofalwyr (sgyrsiau Beth sy’n Bwysig) ar ran Cyngor Wrecsam.
Mae ganddynt ganolfan gofalwyr yn 3A Edison Court, Parc Technoleg Wrecsam, LL13 7YT (y tu ôl i Westy’r Ramada).
Os ydych yn rhoi gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog gallwch gysylltu â GOGDdC i wybod mwy am y gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael.
Gofalwyr Ifanc WCD
Mae Gofalwyr Ifanc WCD yn rhan o’r teulu Credu a gomisiynir gan Gyngor Wrecsam yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn sicrhau bod gofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn greiddiol i bopeth a wnânt.
Os ydych yn ofalwr ifanc sy’n rhoi gofal di-dâl i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog gallwch gysylltu â Gofalwyr Ifanc WCD i wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.
Cymorth gyda chyllid
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cymorth a chyngor ariannol i bawb, nid dim ond gofalwyr di-dâl.
Mae gan Cyngor ar Bopeth Wrecsam sesiynau galw heibio rheolaidd ar draws Wrecsam, neu gallwch gysylltu â’r gwasanaeth trwy ei wefan neu trwy ffonio 0300 330 1178.