Y Diwrnod Gofal hwn (21 Chwefror 21), mae Maethu Cymru Wrecsam yn ymuno â chymuned faethu Cymru wrth dynnu sylw at fuddion gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o gael gwared ar elw o’r system gofal plant.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i gael gwared ar elw o ofal preswyl a maeth i blant.
Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, dan arweiniad pobl â phrofiad gofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut bydd y polisi yn cefnogi pobl ifanc mewn gofal i gadw mewn cysylltiad â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a’u hysgol.
Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn eu hardal eu hunain. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol oedd yn aros yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*
Dechreuodd gofalwyr maeth, Cath a Neil, o Wrecsam, eu taith faethu gydag asiantaeth faethu annibynnol yn 2014. Fe wnaethon nhw drosglwyddo i Faethu Cymru Wrecsam yn 2019, penderfyniad maen nhw’n ei ddisgrifio fel un a drawsnewidiodd fywydau.
Rhannodd Cath: “Pan oedden ni gyda’r asiantaeth, roedden ni’n cefnogi person ifanc oedd yn gorfod teithio dros awr i gyrraedd yr ysgol, a oedd yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gynnal cysylltiadau lleol. Ers symud i Maethu Cymru Wrecsam, mae’r plant rydym yn gofalu amdanynt bellach yn gallu aros yn agosach at adref, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddyn nhw, gan gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u teuluoedd.”
Ychwanegodd Neil, “Yr hyn sy’n wirioneddol amlwg am Maethu Cymru yw’r cymorth. Mae adnoddau a chyngor yr awdurdod lleol yn amhrisiadwy. Rydyn ni’n teimlo’n fwy cysylltiedig â chymuned glos o ofalwyr maeth nawr, ac mae mor ddefnyddiol rhannu profiadau a chyngor ag eraill sydd ar yr un daith.”
I Cath a Neil, mae symud i Maethu Cymru Wrecsam wedi dod ag ymdeimlad cryfach o gymuned a chysylltiad dyfnach â’r plant yn eu gofal.
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar iddo’i hun o recriwtio mwy nag 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Dywedodd Robert Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd: “Mae’r polisi hwn yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei gadw’n fewnol a’i fuddsoddi lle mae’n perthyn, mewn gofal a chymorth i blant a phobl ifanc. Trwy faethu’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol, gallwn ddarparu’r lefel uchaf o gymorth, gan gadw plant yn agos at eu cymunedau, eu hysgolion a phopeth y maent yn ei wybod. Mae timau maethu lleol yn cynnig arweiniad pwrpasol, gan sicrhau bod pob gofalwr maeth yn cael ei gefnogi’n llawn. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau gwell canlyniadau i blant trwy gryfhau’r gymuned faethu leol a blaenoriaethu eu sefydlogrwydd a’u lles.”
I gael mwy o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/