Rydym yn genedl o rai sy’n caru anifeiliaid ac o ganlyniad i’r pandemig gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer y rhai sy’n berchen ar anifeiliaid anwes, yn enwedig cŵn.
Gyda pherchnogaeth daw cyfrifoldeb.
Yn dilyn digwyddiad hynod o ofidus yn un o’n parciau pan y gwelwyd dau gi mawr nad oedd ar dennyn yn dychryn dau blentyn ifanc iawn, roeddem yn teimlo ei bod yn gyfle da i atgoffa perchnogion cŵn o’u cyfrifoldebau mewn mannau cyhoeddus.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Er ei bod yn iawn i gŵn beidio â bod ar dennyn yn ein parciau, nid yw’n iawn i’w perchnogion adael iddyn nhw ddychryn plant ifanc a gofynnwn i bobl ddefnyddio eu synnwyr cyffredin.
Mae gan blant yr un hawl â chŵn a’u perchnogion i chwarae, mwynhau a theimlo’n ddiogel yn ein parciau ond dylid cyfaddawdu bob amser os bydd eich ci’n dychryn plant bach – neu hyd yn oed oedolion.
Dylid mynd at gŵn gyda chaniatâd y perchennog yn unig – a dim ond pan fydd gan y perchennog reolaeth lawn drostyn nhw.
Gall wardeniaid ofyn i chi roi eich ci yn ôl ar dennyn ond byddai’n well gennym beidio ag ymyrryd yn y modd hwn a gofynnwn i bawb sy’n defnyddio ein parciau i fod yn gwrtais, yn foesgar ac yn feddylgar tuag at yr holl ddefnyddwyr eraill.
Annog synnwyr cyffredin a chwrteisi gan holl ddefnyddwyr ein parciau
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ar yr achlysur arbennig hwn, nid yn unig y gwnaeth perchennog y cŵn wrthod rhoi’r cŵn yn ôl ar dennyn pan y gofynnwyd iddo wneud, ond fe drodd hefyd yn ymosodol ac yn sarhaus. Nid yw hyn byth yn dderbyniol, yn enwedig pan fo plant ifanc yn y cwestiwn, a buaswn yn annog synnwyr cyffredin a chwrteisi gan bawb sy’n defnyddio ein parciau.
“Rydym eisiau iddyn nhw barhau i fod yn fannau pleserus a dymunol i bawb, sy’n golygu y bydd yn rhaid i gyfran fechan o ddefnyddwyr gyfaddawdu. Meddyliwch am y ffordd rydych yn gadael i’ch ci ymddwyn, neu sut y gallai ymddygiad eich ci effeithio ar bobl eraill a byddwch yn barod i gyfaddawdu. Efallai bod eich anifeiliaid anwes yn gyfeillgar ac yn ddiniwed ond i blentyn bach gallan nhw ymddangos fel anifeiliaid mawr a brawychus ac achosi cryn ofid.”
Rydym yn cydnabod mai lleiafrif bychan iawn o berchnogion cŵn anghyfrifol rydym yn eu targedu yma, ac rydym yn gobeithio y bydd ein neges yn eu cyrraedd.
Dyma eich atgoffa am y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n berthnasol i gŵn mewn mannau cyhoeddus:
- cael gwared ar faw eu cŵn ym mhob man cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol gyfan
- bydd cŵn yn cael eu gwahardd o lawntiau bowlio, ardaloedd chwarae ar gaeau chwaraeon sydd wedi’u marcio ac ardaloedd chwarae plant, parciau sgrialu, cyrtiau tennis ac ardaloedd gemau amlddefnydd sydd wedi’u ffensio (ac eithrio perchnogion â chŵn tywys)
- bydd yn rhaid i berchnogion roi eu cŵn ar dennyn pan fydd Swyddog Awdurdodedig yn gorchymyn hynny
- rhoi eu cŵn ar dennyn o amgylch canolfannau ymwelwyr a meysydd parcio mewn parciau a lawntiau bowlio
- bydd yn rhaid i berchnogion roi eu cŵn ar dennyn ar ffyrdd cyhoeddus a phalmentydd
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF