Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion da wrth i Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan fod ar gael yn y Waun a Chanol y Dref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newyddion da wrth i Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan fod ar gael yn y Waun a Chanol y Dref
Y cyngor

Newyddion da wrth i Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan fod ar gael yn y Waun a Chanol y Dref

Diweddarwyd diwethaf: Mai 17, 2021 4:56 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Electric Charging Points
RHANNU

Rydym yn parhau i roi Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (PGCT) ar waith ar draws y fwrdeistref sirol ac rydym bellach wedi gosod gorsaf wefru 100kw cyntaf Gogledd a Chanolbarth Cymru yn y Waun.

Gall y gwefrwr cyflym iawn wefru car hyd at 80% mewn tua 20-30 munud a bydd o fudd mawr i yrwyr cerbydau trydan a chefnogi’r economi leol gyda defnyddwyr yn stopio am gyfnod byr i ddefnyddio’r amwynderau lleol.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi gosod mwy yng nghanol y dref gan gynnwys pwynt gwefru 50kw sy’n gallu gwefru hyd at 80% mewn tua hanner awr i awr ynghyd â dau bwynt gwefru deuol ar gyfer arhosiad hirach a gwefru.

Mae’r rhain wrth ymyl Neuadd y Dref ac maent yn caniatáu i ddefnyddwyr wefru tra’n defnyddio’r siopau a chyfleusterau yng nghanol y dref.

Mae’r pwyntiau gwefru hyn yn ychwanegiad i’n rhwydwaith o ddeg pwynt gwefru hygyrch i’r cyhoedd, a leolir ar draws y Fwrdeistref Sirol, o ganol y dref, parciau’r sir i leoliadau gwledig fel Glyn Ceiriog.

Bydd Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn ein helpu i gyrraedd allyriadau di-garbon

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r prosiectau hyn yn dangos ein hymrwymiad i deithio gwyrdd a hybu’r defnydd o gerbydau trydan ledled y Sir ac i ymwelwyr â’r ardal.

“Roeddem wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 gyda’r nod o gael allyriadau di-garbon erbyn 2030.  Mae’n agenda uchelgeisiol a bydd prosiectau fel gosod y pwyntiau gwefru hyn mewn mannau cyfleus yn ein helpu i gyrraedd ein hamcanion.”

Mae’r pwyntiau gwefru wedi cael defnydd da yn barod a defnyddiwyd pan gafodd cerbyd sbwriel trydan ei wefru fel rhan o dreial yn ddiweddar i weld pa mor dda fyddent ar rowndiau.

Electric Vehicle Charging

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Fel cyngor rydym bob amser yn edrych am ffyrdd y gallwn leihau faint o allyriadau a gynhyrchir o’n cerbydau, ein hadeiladau, unrhyw beth yr ydym yn ei brynu a sut y gallwn ddefnyddio ein tir orau.

“Mae newid hinsawdd yn real ac mae’n rhaid i ni gyd edrych ar sut y gallwn leihau effaith niweidiol allyriadau carbon. Mae gennym dîm bach ond ymroddedig iawn a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwaith i’n helpu i gyflawni ein hamcanion er mwy gwneud Wrecsam yn lle glanach a gwyrddach i fyw, ymweld a gweithio yno.”

Er mwyn symud yr agenda ymlaen ymhellach, bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol hefyd yn ystyried ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio sy’n canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  • Adeiladau
  • Cludiant a Symudedd
  • Defnydd Tir
  • Caffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)

Mae’r Cynllun wedi’i lunio yn dilyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020 a digwyddiadau ar-lein ym mis Chwefror 2021.

Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dog O Gofynnir i berchnogion cŵn fod yn feddylgar pan nad yw eu cŵn ar dennyn
Erthygl nesaf Physiotherapy Mae’r tîm arloesol yn Wrecsam yn darparu cymorth ar gyfer pobl gyda dementia

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruthin Road Car Park
Wrecsam v Middlesbrough – cofiwch barcio a theithio 🚗🚌
Digwyddiadau
Hydref 29, 2026
Armed Forces
Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026

Hydref 26, 2026
National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English