Wrth gerdded o gwmpas Wrecsam efallai eich bod chi wedi sylwi ar ychydig o bethau sy’n edrych yn wahanol yr wythnos yma.
Os ydych chi’n mynd am dro drwy Lwyn Isaf gyda’r nos, fe welwch chi fod balconi Neuadd y Dref wedi’i oleuo’n wyrdd tan 23 Hydref.
Ac os ydych chi’n mynd ar hyd Rhodfa San Silyn fe welwch chi fod siâp ein logo ailgylchu yn y gwair wrth ymyl y cerflun dur.
Mae hyn oll yn rhan o’n gwaith i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Ailgylchu 2022.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym wrth ein boddau unwaith eto i fod yn cefnogi’r Wythnos Ailgylchu. Eleni, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar un o’r rhwystrau mwyaf i bobl o ran ailgylchu, sef y dryswch ynglŷn â’r eitemau y gellir ac na ellir eu hailgylchu. Mae’n bwysig rhoi’r holl wybodaeth y maen nhw ei hangen i bobl er mwyn iddyn nhw allu ailgylchu’n gywir ac yn hyderus. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am ailgylchu drwy gydol yr wythnos, ac mae Cymru yn Ailgylchu hefyd wedi creu gwefan, sef WythnosAilgylchu.org.uk, y gall pobl ei defnyddio i gael atebion i’w cwestiynau am ailgylchu.”
Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?
PARATOWCH I BLEIDLEISIO