Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Grŵp costau byw yn dechrau gweithio ar helpu preswylwyr Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Grŵp costau byw yn dechrau gweithio ar helpu preswylwyr Wrecsam
ArallY cyngor

Grŵp costau byw yn dechrau gweithio ar helpu preswylwyr Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 20, 2022 3:52 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cost of living crisis
RHANNU

Mae tasglu arbennig a sefydlwyd i helpu i roi cymaint â phosibl o gymorth i breswylwyr Wrecsam yn ystod yr argyfwng costau byw wedi cyfarfod am y tro cyntaf.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Cyngor Wrecsam y byddai’n sefydlu gweithgor hollbleidiol i ystyried yr heriau sy’n wynebu cymunedau lleol, ac i ganfod ffyrdd ymarferol o helpu pobl leol.

Gwnaeth y grŵp gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Iau, 13 Hydref a gwnaethon nhw nodi nifer o gamau pwysig, yn cynnwys:

  • Gweithio’n agos â Banc bwyd Wrecsam i ymchwilio i ffyrdd newydd o helpu i sicrhau nad oes unrhyw un yn mynd heb fwyd.
  • Cysylltu â thenantiaid tai cyngor diamddiffyn i sicrhau eu bod nhw’n iawn.
  • Edrych ar ffyrdd o ehangu’r cynllun ‘lleoedd cynnes’ – fel bod mwy o leoedd y gall pobl fynd iddyn nhw i gadw’n gynnes os ydyn nhw’n ei chael yn anodd cynhesu eu tai.
  • Cyfeirio pobl at wybodaeth, fel eu bod nhw’n gallu hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo a manteisio ar y cymorth sydd ar gael. Mae camau’n cynnwys:
    – Rhoi gwybodaeth ar wefan y cyngor am fudd-daliadau a grantiau, awgrymiadau ar gyfer lleihau biliau’r cartref, ymdopi â phryderon am arian ac ati.
    – Sicrhau bod staff y cyngor (yn enwedig gweithwyr y rheng flaen) yn gwybod ble i gyfeirio pobl i gael cymorth.
    – Cynnal digwyddiadau gwybodaeth ar draws y fwrdeistref sirol.
    – Defnyddio cylchgrawn Trafodion Tai y cyngor i sicrhau bod tenantiaid y cyngor yn gwybod ble i gael cymorth.

Mae’r grŵp – a fydd yn cyfarfod unwaith bob pythefnos i ddechrau – yn cynnwys cynghorwyr o bob grŵp gwleidyddol yng Nghyngor Wrecsam, yn ogystal â swyddogion.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, sy’n cadeirio’r grŵp:

“Mae’n braf iawn gweld y grwpiau gwleidyddol i gyd yn dod at ei gilydd i weithio ar y mater hwn, a gwnaethom ni nodi camau pendant yn ystod ein cyfarfod cyntaf.

“Mae’r argyfwng costau byw yn fater cenedlaethol, ac er nad ydym ni’n gallu ei ddatrys, mae pethau y gallwn ni eu gwneud fel cyngor lleol i helpu ein cymunedau.

“Mae pawb yn y grŵp wedi ymrwymo’n llwyr i gydweithio i wneud yr hyn a allwn, oherwydd rydym ni i gyd yn cydnabod bod angen cymorth ymarferol ar bobl ar hyn o bryd.

“Drwy sicrhau bod pobl yn gwybod pa gymorth sydd ar gael, a’u helpu nhw i roi bwyd ar y bwrdd a chadw’n gynnes, gobeithio y gallwn ni wneud gwahaniaeth.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Golau gwyrdd ac arwydd yn y gwair ar gyfer Wythnos Ailgylchu Golau gwyrdd ac arwydd yn y gwair ar gyfer Wythnos Ailgylchu
Erthygl nesaf Over 60s Cynnig 60 oed â hyn: Cynllun Hamdden Egnïol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English