Y newyddion diweddaraf gan ein Bwrdd Gweithredol, os nad ydych chi eisoes yn ei wylio adref, yw bod ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg i 210 o ddisgyblion wedi cael y golau gwyrdd yn Borras.
Mae’r gymeradwyaeth yn dilyn ymgynghoriad statudol cyhoeddus a ddenodd 16 o ymatebion.
Bydd yr ysgol newydd yn cychwyn fel ysgol “fwydo” yn 2019 yn hen safle ysgol fabanod Hafod y Wern, gyda’r disgyblion yn cael mynediad i ysgol Borras yn 2021, os bydd y gwaith yn Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras wedi’i orffen.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Bydd lle i 15 o ddisgyblion ym mhob grŵp blwyddyn tra bydd yr ysgol wedi’i lleoli yn y safle dros dro yn Hafod y Wern, a bydd hyn yn cynyddu i 30 lle pan fydd yr ysgol yn adleoli i’w safle parhaol.
Bydd hyn yn golygu cynnydd yn nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, a bydd hefyd yn gyfle i recriwtio mwy o staff addysgu a staff cymorth y bydd eu hangen yn yr ysgol newydd.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB