Alfred Neobard Palmer Plaque

Os ydych chi’n byw yn y cyffiniau ers amser, mae’n bosib y byddwch yn cofio’r plac efydd fu yng nghyntedd Llyfrgell Wrecsam am flynyddoedd.

Fe’i codwyd yn wreiddiol yn 1922 yn yr hen lyfrgell cyn iddo gael ei symud i’n llyfrgell gyfredol.

Bellach mae yn ystafell archwilio archifau Amgueddfa Wrecsam, lle mae’n cael ei arddangos yn falch ar y wal gefn…

Mae yno er mwyn dathlu gwaith a bywyd dyn o’r enw A.N. Palmer, na ddylid ei ddrysu â Mr Arnold Palmer.

Fel mae Jonathon Gammon, Swyddog Dehongli a Mynediad Amgueddfa Wrecsam yn ei egluro, mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol:

“Mae pobl wedi drysu â’r golffiwr enwog, Arnold Palmer, fwy nag unwaith, gyda phobl yn gofyn beth yw’r cysylltiad rhwng hwnnw a Wrecsam”.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Felly os nad golffiwr enwog mohono, pwy oedd A.N. Palmer a beth a wnaeth i gael ei gydnabod ar y plac hwn?

Dyma ychydig gefndir i A.N., Alfred, neu Alf i’w gyfeillion…

Ganwyd Alfred Neobard Palmer yn Norfolk ar 10 Gorffennaf 1847. Bu’n brentis mewn fferyllfa yn Bury St. Edmunds, ac enillodd Ysgoloriaeth Bell y Gymdeithas Fferyllol.

Cafodd ei gyflogi wedyn fel fferyllydd a symudodd i Lundain, yna i Fanceinion cyn cael ei benodi fel fferyllydd mewn gwaith dŵr mwynol ym Mhentre Felin, Wrecsam yn 1880.

Aeth ymlaen i sefydlu ei bracdis ei hun yn ei gartref cyn agor swyddfa yn 34a Stryt Caer. Ni fu hyn mor llwyddiannus ag yr oedd wedi ei obeithio.

Hefyd… dywedwyd fod ganddo “lai o amser ar gyfer pobl nag a fyddai’n fodlon cyfaddef wrthynt”. Roedd ei natur fewnblyg a rhai cyfyngiadau ariannol yn golygu nad oedd bellach am barhau â’i bracdis ei hun.

Cafodd waith wedyn fel fferyllydd diwydiannol yng Ngwaith Dur Brymbo, ac yna bu’n fferyllydd dadansoddol am 13 mlynedd yng Ngwaith Lledr y Cambrian.

Ond nid oherwydd ei waith fferyllol mae wedi derbyn plac efydd… ond yn hytrach ei wybodaeth hanesyddol a’i gariad tuag at Wrecsam sydd wedi gadael etifeddiaeth barhaol.

Felly pam mynd o gemeg i hanes?

Dywedwyd bod Palmer yn “ddyn rhyfedd, ac roedd ei feddwl bob amser yn chwilio am bethau ac yn eu hystyried yn fanwl.” Roedd yr aflonyddwch a’r reddf naturiol hon i grwydro ac archwilio yn golygu nad oedd ei awydd i ddarganfod mwy am lle’r oedd yn byw yn annaturiol.

Golygodd ei ysfa i ddarganfod y gwir iddo ysgrifennu sawl llyfr am yr ardal leol… yn fwy trylwyr nag erioed o’r blaen!

Sawl llyfr ysgrifennodd?

Ysgrifennodd 10 llyfr, a’r cyntaf oedd ‘The town, fields and folk of Wrexham in the time of James the First’.

Ni fu’r llyfr yn llwyddiant ac mewn gwirionedd, gwaeth golled, fel gyda llawer o’i lyfrau eraill. Ei gariad tuag at yr hyn oedd yn ei wneud a’i arweiniodd i ysgrifennu llyfrau eraill, gan gynnwys ‘History of the Parish Church of Wrexham.’

Er mwyn perffeithio’i grefft, cerddai filltiredd lawer a gweithiai oriau arbennig o hir. Byddai’n astudio gweithredoedd hynafol, ewyllysion, cofrestri plwyfi a llawysgrifau er mwyn sicrhau bod ei weithiau bob amser yn drylwyr iawn.

Cafodd effaith…

Mae’n deg dweud fod pob llyfr a ysgrifennodd wedi effeithio’i iechyd. Blinai’n lân o ganlyniad i’r oriau roedd yn eu treulio yn gweithio ac roedd hefyd yn cael trafferthion ariannol.

Ysgrifennodd un nofel hyd yn oed – ‘Owen Tanat’ – yn y gobaith y byddai’r farchnad honno’n fwy proffidiol ac yn helpu i dalu costau ei lyfrau eraill. Yn anffodus ni fu’r nofel yn llwyddiant.

Penderfynodd ei gyfaill tryw, Edward Owen, ei gynorthwyo gan sicrhau pensiwn gwladol iddo am ei ymdrechion.

Eisiau’r gorau ar gyfer Wrecsam

Yn 1892 cychwynnodd Alfred Palmer ei ymgyrch i sefydlu amgueddfa yn Wrecsam. Ni ofynnodd am ormod.. ysgrifennodd at Bwyllgor y Llyfrgell Rydd yn gofyn iddynt roi blwch arddangos yn y llyfrgell fel cam cyntaf i sefydlu amgueddfa.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach roedd yn dal i lobio’r llyfrgellwyr ac ymddangosodd erthygl yn y ‘Wrexham Advertiser’ yn disgrifio Mr Palmer fel “y gyrrwr y tu ôl i’r syniad o sefydlu amgueddfa.”

Cymrodd 80 mlynedd arall cyn i Wrecsam ystyried agor amgueddfa… mwy na degawd arall wedyn i ddod o hyd i adeilad addas… ac yna yn 1996, 104 o flynyddoedd wedi i Alfred gychwyn ei ymgyrch, agorodd Amgueddfa Wrecsam ar Stryt Y Rhaglaw.

Etifeddiaeth barhaol

Cyn cyfnod Palmer, ychydig iawn oedd wedi ei ysgrifennu am ein hanes lleol. Gweithiodd Palmer yn arbennig o galed i ddod o hyd i wybodaeth… mewn cyfnod pan nad oedd Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol na Swyddfeydd Cofnodion Sirol yn bodoli.

Heddiw, gallwn werthfawrogi’r ymdrech arwrol a wnaeth i gynhyrchu ei lyfrau.

Ymddengys yn bechod mawr na chafodd Palmer ei werthfawrogi yn ystod ei gyfnod ei hun. Fel dywedodd ei gyfaill Edward Owen “aeth prif ysgolhaig hanesyddol Cymru ei gyfnod i’w fedd heb ei gydnabod”.

Yn 1915, dyfarnodd Prifysgol Lerpwl radd anrhydedd iddo, ond bu farw ar 6 Mawrth, cyn gallu ei derbyn.

Mae’n addas iawn bod ei fywyd bellach yn cael ei ddathlu yn yr amgueddfa y bu iddo ymgyrchu mor hir drosti. Heddiw, mae arteffactau anhygoel fel Celc Bronington a modrwyon clo Oes Efydd Yr Orsedd ar gael yn lleol i bawb eu gweld a’u mwynhau… yn union fel y byddai Alfred ei hun yn dymuno.

Felly’r tro nesaf rydych yn rhestru pobl enwog o Wrecsam, peidiwch ag anghofio cynnwys Alfred Neobard Palmer!

Mae’r holl wybodaeth wedi ei gymryd o lyfrau ac erthyglau yn ystafell archwilio archifau Amgueddfa Wrecsam. Mae’n lle gwych i ymweld â fo os ydych am archwilio’n hanes lleol.

Ewch i gael golwg, mae rhywun bob amser ar gael i’ch rhoi ar y llwybr cywir.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION