Play Sufficiency

Sefydlwyd y rhaglen grantiau tymor byr hon gan fod Llywodraeth Cymru, yn ddiweddar, wedi rhoi cyllid ar gael i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant a Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Cymru, yn benodol.

Felly, pwrpas y rhaglen grantiau yw gwella cyfleoedd i blant (gan gynnwys plant yn eu harddegau) gael chwarae, gyda’r nod o helpu i sicrhau bod cyfleoedd chwarae digonol ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae’r rhaglen grantiau’n agored i unrhyw sefydliadau neu grwpiau sy’n gweithio gyda phlant neu’n gweithio i’w cefnogi a chefnogi eu cyfleoedd i chwarae yn Wrecsam.

Gallwch ymgeisio am hyd at £2,000, ond, gan ddibynnu ar y galw am gyllid ac addasrwydd y ceisiadau a geir, fe all Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid CBSW benderfynu dyrannu mwy neu lai i brosiectau na’r swm y gofynnwyd amdano’n wreiddiol, ble bo hynny’n briodol.

Oherwydd y diffyg amser a’r pwysau i wario’r arian hwn, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd Dydd Sul, Ionawr 23, 2022

https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/Wrexham_Play_Sufficiency_Innovation_Grant_2021_22_Application_Form

Darllenwch ganllawiau’r grant cyn ymgeisio.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost play@wrexham.gov.uk