Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaredwch â chaniau nwy a batris mewn modd cyfrifol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwaredwch â chaniau nwy a batris mewn modd cyfrifol
Y cyngor

Gwaredwch â chaniau nwy a batris mewn modd cyfrifol

Diweddarwyd diwethaf: 2023/06/30 at 11:59 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
g
RHANNU

Mae’n hynod bwysig bod yn ofalus iawn a dilyn y canllawiau cywir wrth waredu ag unrhyw eitemau hunan losgadwy fel caniau nwy a batris.

Cynnwys
“Byddwch yn gyfrifol”Beth ddylwn i’w wneud?Cynwysyddion nwyCaniau ocsid nitraiddBatrisBarbeciw untro

Adeg yma’r flwyddyn, yn enwedig gyda’r tywydd poeth a fu’n ddiweddar, mae nifer yn mwynhau barbeciw yn yr ardd, gan olygu bod mwy o ganiau nwy o gwmpas na’r arfer. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y caniau ‘ocsid nitraidd’ llai. Os oes gennych chi unrhyw fath o ganiau nwy yn eich meddiant, dilynwch y canllawiau cywir wrth eu gwaredu, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

“Byddwch yn gyfrifol”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Amgylchedd: “Ni ddylid gosod eitemau gwastraff peryglus gan gynnwys batris, caniau nwy, cemegion neu unrhyw ffynhonnell arall o wres, yn eich gwastraff cyffredinol. Gall roi’r eitemau yma yn eich bin achosi tân yn y canolfannau ailgylchu, gan greu sefyllfaoedd peryglus a rhoi nifer o bobl mewn risg.

“Hefyd mae’r effaith difrifol y mae’n ei gael ar yr amgylchedd. Pan fydd y deunydd gwenwynig sydd yn yr eitemau hyn yn cael eu rhyddhau, maent yn niweidiol i’r amgylchedd ac iechyd pobl. Byddwch yn gyfrifol ac ailgylchwch yr eitemau yma, neu os yw’n bosib, eu dychwelyd i’r cyflenwr ble y cawsoch yr eitem.”

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Beth ddylwn i’w wneud?

Cynwysyddion nwy

Gyda’r haf yn nesau, bydd llawer ohonoch yn debygol o gael barbiciws yn y misoedd nesaf, felly mae’n bwysig iawn i ystyried y cyngor canlynol…

Gall caniau nwy fod yn beryglus, ac felly ni ddylid eu rhoi yn eich bin sbwriel. Os oes gennych un, mae’n well holi’r cwmni ble y gwnaethoch ei brynu, gan y bydd yn bosib iddynt eu hail-lenwi neu ei waredu i chi.

Mae’n bosib ailgylchu poteli nwy llai nad oes modd eu hail-lenwi (a ddefnyddir ar gyfer gwresogydd coginio bach) gyda’r plastigion a’r caniau a gaiff eu casglu yn ymyl palmant DIM OND os nad oes hylif neu nwy ynddynt. Os oes unrhyw beth ar ôl ynddynt, byddwch angen mynd â nhw i un o’r tair canolfan ailgylchu.

Caniau ocsid nitraidd

Os oes gennych chi ganiau ocsid nitraidd, ewch â nhw i’r ganolfan ailgylchu.

Batris

Batris lithiwm sy’n achosi’r nifer fwyaf o danau mewn cyfleusterau gwastraff. Gallwch ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris car!

Ond os mai ond batris arferol y cartref hoffech eu hailgylchu, ac os yw’n fwy hwylus i chi, dylech gael yr opsiwn i’w hailgylchu yn eich siop leol hefyd.

Mae hyn oherwydd, ers Chwefror 2010, mae’n rhaid i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 paced o 4 o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn y siop…felly mae’n rhaid i’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr ddarparu hyn.

Barbeciw untro

Gall barbeciwiau untro achosi tân os nad ydynt wedi eu trin yn y ffordd gywir, felly byddwch yn ofalus wrth eu defnyddio.

Dylid ond gwaredu ar ludw poeth yn y bin gwastraff cyffredinol wedi iddynt oeri yn iawn. Mae posib gwneud hyn drwy unai ddisgwyl 48 awr, neu eu socian mewn dŵr oer nes i’r tymheredd ostwng.

Mae’n llawer gwell osgoi barbeciwiau untro os yn bosib. Fel nifer o gynnyrch defnydd untro, maent yn gyfleus, ond y blaned sy’n talu’r pris. Nid yw’n bosib ailgylchu barbeciwiau untro, ac mae cael un aml ddefnydd yn llawer rhatach i’w ddefnyddio yn yr hirdymor.

I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Diwrnod Chwarae Diwrnod Chwarae Wrecsam ddydd Mercher 02.08.23
Erthygl nesaf Wrexham Allwch chi gefnogi Banc Bwyd Wrecsam?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle Ionawr 16, 2026
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Wrexham Wellbeing Hub Sensory Room
Pobl a lleY cyngor

Sesiwn ystafell synhwyraidd ar gael i deuluoedd drwy Hwb Lles Wrecsam

Ionawr 12, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English