Gall gadw’r plant yn brysur ac yn egnïol yn ystod gwyliau’r haf fod yn broblem i rieni.
A llawer o’r amser gall y gweithgareddau sydd ar gael gostio gormod – yn arbennig os oes gennych fwy nag un plentyn.
Yn ffodus, mae Cyngor Wrecsam yn cynnig gweithgareddau chwarae am ddim drwy gydol gwyliau’r Pasg. Ac mae gweithwyr chwarae proffesiynol wedi’u hyfforddi yno ar gyfer pob gweithgaredd.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
I gael gwybod yn union yr hyn sydd gennym wedi’u trefnu yn ystod y Pasg, mae rhestr lawn o’r gweithgareddau ar gael yma.
“Cynlluniau Chwarae yn rhoi digonedd o bethau i’r plant i’w gwneud”
Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Gall fod yn anodd diddanu’r plant yn ystod gwyliau Pasg a gall fod hyd yn oed fod yn fwy anodd dod o hyd i weithgareddau sydd am ddim.
“Bydd ein gwahanol gynlluniau chwarae, diolch i gyllid gan Gynghorau Cymuned, yn gwneud yn siŵr bod gan y plant ddigon i wneud yn ystod gwyliau’r Pasg, gyda digon i’w gynnig i bawb.
“Mae hwn yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth rhwng y Gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae y Bwrdeistref Sirol a Chynghorau Cymuned.”
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn:
Cefn ac Acrefair
11am – 1pm, Dydd Llun a dydd Mercher ym Mharc Plas Kynaston (drws nesaf i’r llyfrgell)
11-1pm, Dydd Gwener ar gae Ysgol Acrefair
Coedpoeth
2pm – 4pm, Dydd Mawrth a dydd Iau ar Gae Adwy
Abenbury
11am – 1pm, Dydd Mawrth a dydd Iau ym maes chwarae Pentre Maelor
Gwersyllt
2pm – 4pm, Dydd Llun a dydd Mawrth ym Mharc Pendine
2pm – 4pm, Dydd Mercher a dydd Iau ar Gaeau Bradle
2pm – 4pm, Dydd Gwener yn Ffordd Newydd, Brynhyfryd
Offa
2pm -4 pm, Dydd Mawrth yn Luke O’Connor House
2pm – 4pm, Dydd Mercher ym Maes Chwarae Bryncabanau
2pm – 4pm, Dydd Iau a dydd Gwener yn Y Parciau
Rhos a Johnstown
2pm – 4pm, Dydd Llun a dydd Mawrth yn Moreton Circle (Johnstown)
2pm – 4pm, dydd Mercher ym Mryn y Brain
2pm – 4pm, Dydd Iau a dydd Gwener ym Mharc Ponciau
Rhostyllen
10am – 1pm, Dydd Llun i ddydd Gwener, ar y caeau y tu ôl i Neuadd y Plwyf
Brymbo
11am – 1pm, Dydd Llun a dydd Mawrth yng Ngolygfa Caer
11am – 1pm, Dydd Mercher a dydd Iau, Ffordd y Melinydd, Brymbo
11am – 1pm, Dydd Iau a dydd Gwener yng Nghae Merfyn, Tanyfron
Rhosddu
11am – 1pm, Dydd Llun yn Ffordd yr Ardd (y tu allan i Fyddin yr Iachawdwriaeth)
11am – 1pm, Dydd Mawrth ym Mharc Ashfield (y tu ôl i’r Ganolfan Tennis)
11am – 1pm, Dydd Mercher ar y Grîn, Garden Village (o flaen Ysgol Wats Dyke)
11am – 1pm, Dydd Iau a dydd Gwener ar Lôn Price (Parc Sglefrio)
Ariennir yr holl brosiectau gwaith chwarae gan gynghorau cymuned lleol.
I gael rhagor o fanylion am brosiectau sy’n cael eu cynnal yn ystod gwyliau ysgol, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar 01978 292094 neu ewch i www.wrecsam.gov.uk/chwarae
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB