Wrth i’r defnydd o Fanc Bwyd Wrecsam gynyddu ac wrth i gypyrddau bwyd ymddangos mewn pentrefi yn y fwrdeistref sirol, mae Cyngor Wrecsam wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflogi cydlynydd rhwydwaith bwyd.
Mae Cyngor Wrecsam wedi nodi nifer o flaenoriaethau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd y cydlynydd rhwydwaith bwyd wedi’i benodi. Er enghraifft, mae’r swydd wedi’i chynllunio i ddod â gwasanaethau ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam ynghyd gan sicrhau bod busnesau bwyd, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ac aelodau o’r gymuned i gyd yn gallu gweithio gyda’i gilydd. Y nod yw lleihau tlodi bwyd yn ogystal â gwella ansawdd bwyd brys a gwneud mynediad at fwyd yn fwy cyfartal i bawb yn y fwrdeistref sirol.
Un o’r ffyrdd y bydd hyn yn cael ei gyflawni yw creu Partneriaeth Fwyd ar gyfer y fwrdeistref sirol ac edrych ar ffyrdd pendant ac effeithiol o gydweithio a lleihau tlodi bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, cefnogwr atal tlodi Cyngor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn o glywed bod Cyngor Wrecsam wedi cael y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i sefydlu’r Bartneriaeth Fwyd. Mae anghydraddoldeb bwyd yn fater mawr, ac rwy’n falch o’i weld yn cael sylw yma yn Wrecsam drwy ddod â’r holl sefydliadau perthnasol ynghyd i wneud yn siŵr bod gwasanaethau’n gweithio fel un i roi’r holl gymorth a gwybodaeth sydd ar gael i unigolion a theuluoedd sy’n byw yn Wrecsam.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gallai fod gennych chi hawl iddo, ewch i dudalen we costau byw y Cyngor.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.