Roedd cynghorwyr ac arweinwyr busnes yn Xplore yn Wrecsam ddydd Llun 18 Hydref i ddathlu’r ffaith bod efelychydd Tenstar yn aros am gyfnod estynedig yn Wrecsam tan fis Mawrth 2022.
Mae’r efelychydd sy’n cael ei ddefnyddio i roi hyfforddiant i yrwyr a gweithredwyr tryciau fforch godi, lorïau HGV a pheiriannau cloddio mawr, wedi’i leoli yn Xplore yn Wrecsam ac wedi cael ei ddefnyddio gan fusnesau lleol, ysgolion a thrigolion Wrecsam sydd wedi dangos diddordeb mewn ystyried dilyn y gyrfaoedd hyn yn y dyfodol.
Mae’r cyllid wedi cael ei sicrhau trwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru a gobeithir y bydd yn llwyddo i gau’r bylchau sgiliau sy’n cael eu gweld gan gwmnïau lleol mewn logisteg a warysau. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn annog pobl i feddwl am lwybr gyrfa nad oeddent wedi’i ystyried o’r blaen ac yn annog merched i mewn i ddiwydiant sydd i’w weld yn cael eu ddominyddu gan ddynion. Mae’r prosiect arloesol hwn wedi’i gyflawni ar y cyd rhwng Cyngor Wrecsam, prosiectau cyflogaeth, darparwyr hyfforddiant a busnesau lleol.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Roedd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam yn bresennol yn y digwyddiad a dywedodd: “Roedd yn ymweliad pleserus a diddorol iawn a hoffwn ddiolch i bawb yn Explore am roi o’u hamser i ddangos i mi beth mae hyn yn ei olygu i’r rheiny sy’n chwilio am waith yn Wrecsam ac i gyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu.
“Mae’n ychwanegiad gwych i’r adnoddau hyfforddiant sydd ar gael yn y sector hwn a gwn bod llawer o ddiddordeb wedi bod yn yr efelychydd sydd eisoes wedi helpu pobl i gael swyddi. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy am lwyddiant y prosiect a sut y mae wedi helpu’r rheiny sy’n chwilio am waith a chyflogwyr hefyd.”
Hefyd yn bresennol o’r cyngor oedd y Cynghorydd Terry Evans, y Cynghorydd David A Bithell, y Cynghorydd Sonia Benbow Jones a’r Cynghorydd Hugh Jones.
Eraill a oedd yn bresennol ac sydd wedi cyfrannu at leoli’r efelychydd yn Wrecsam oedd Julian Hughes o Gatewen Training Ltd, Katie Williams a oedd yn cynrychioli Xplore, Jon Sankey Rheolwr Rhaglenni Cyflogaeth Cymunedol yng Nghynghor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Simon Hogg o Tenstar Simulation.
Mae tîm Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam eisoes wedi defnyddio’r efelychydd ar gyfer diwrnodau blasu a bydd eraill yn y dyfodol agos hefyd.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes hwn a rhoi cynnig ar yr efelychydd gysylltu â Chymunedau am Waith Wrecsam trwy anfon neges destun ‘C4W’ at 66777 neu ffonio 07976200413/07976200414. Neu anfonwch neges e-bost i: cfw@wrexham.gov.uk.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL