Rydym eisoes wedi cyflawni llawer o waith ar strydlun canol tref.
Mae’r rhain yn cynnwys gwerth £250,000 o welliannau i Orsaf Fysiau Wrecsam, gan gynnwys toiledau wedi’u hadnewyddu; biniau sbwriel newydd; sgriniau gwybodaeth well; ardal barcio anabl cynlluniedig ac ail-wynebu’r briffordd tu allan i’r orsaf.
Rydym hefyd wedi cyflawni gwaith sylweddol Cam 1 ar Stryt Y Rhaglaw, Hope Street a Queens Square.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Ac yn ddiweddar, bum i ni gyflawni gwelliannau ar Stryt Yr Arglwydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy gael gwared ar finiau, meinciau a choed.
Ond mae rhagor o welliannau ar y gweill.
Bydd y diweddariadau a gwelliannau nesaf i ganol y dref yn digwydd ger Eglwys San Silyn a’r strydoedd cyfagos, gyda nifer o waith wedi’u cynllunio.
Mae ychydig o’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:
- Biniau sbwriel newydd i’r cyhoedd drwy ganol y dref (yn ogystal â cheirt gwthio gwell i’n tîm glanhau strydoedd).
- Man storio newydd arfaethedig ar gyfer biniau i’r preswylwyr a busnesau eu defnyddio ar Yorke Street, yn ogystal â chreu man diogel i gasglu biniau, a rheolaeth well o gasglu biniau ar Temple Row.
- Cyflwyno golau LED steil- traddodiadol newydd ar Queens Street, Stryt Y Lampint a Queens Street, yn ogystal â goleuadau LED newydd ar Temple Row.
- Plannu gwlâu blodau drwy ganol y dref.
- Torri a chlirio coed ger Eglwys Blwyf San Silyn, a choed sydd yn hongian dros Temple Row a College Street.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod wedi cyflawni nifer o welliannau i strydlun eleni, mae cynlluniau pellach mewn lle i ardaloedd drwy ganol y dref. Mae’r gwaith hyn wedi cael eu trefnu eisoes fel rhan o welliannau cynlluniedig i ganol y dref. Mae gwaith eraill wedi’u cynllunio, ac yr hoffem ei gyflawni, ond mae’r rhain yn ddibynnol ar gyllid.”
Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn o’r gwaith sydd wedi’i gyflawni yng nghanol y dref, ac yn falch o weld bod gwaith ychwanegol wedi’u cynllunio i wella’r ardal, ac yn edrych ymlaen at eu gweld.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION