Pan ddaeth Arolygwyr Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant ei Mawrhydi yng Nghymru, i Ysgol Uwchradd Rhosnesni fis Tachwedd, gwelsant bod yr ysgol wedi “gwella’n gyflym”.
Y oedd bod hyn oherwydd arweinyddiaeth y Pennaeth newydd, Mr Andrew Brant, a ymunodd â’r ysgol fis Mehefin 2018. Dywedwyd ei fod yn arwain yr ysgol gydag “egni a brwdfrydedd”, a bod “y newidiadau mae wedi’u cyflwyno wedi gwella ysbryd yr ysgol, agweddau’r disgyblion a’r ffordd o ymgysylltu â’r gymuned” a’i fod, mewn cyfnod byr, wedi “cymell y staff ac wedi ysgogi gwelliannau cyflym o ran ymddygiad ac agwedd disgyblion tuag at ddysgu. Mae hyn wedi caniatáu i’r athrawon ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda disgyblion a chynnal eu gwersi’n fwy effeithiol.”
“Gweledigaeth ac ethos gli”
Cychwynnodd Andrew Brant sefydlu “gweledigaeth ac ethos glir” ar gyfer yr ysgol yn syth. Roedd disgwyl i’r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol yn gywir a chyflwynwyd safonau newydd ar gyfer ymddygiad. Roedd disgwyl i bawb gadw at y rheolau newydd, a oedd yn arwain at ddisgwyliadau ac uchelgeisiau uwch. Ailddiffiniwyd rolau staff yn yr ysgol ac roedd y staff yn cydweithio mwy.
Dywedodd y Pennaeth, Andrew Brant, “Dim ond dechrau siwrnai’r ysgol yw hyn. Rydw i’n falch bod yr Arolygwyr wedi cadarnhau’r newidiadau rydw i wedi’u gwneud. Mae’n hanfodol ein bod ni’n dal i godi’r safon ac annog gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Rhosnesni.”
“Cynllun mentora cymheiriaid llwyddiannus iawn”
Dywedodd yr Arolygwyr, “Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth wneud gwelliannau cyflym i sawl agwedd ar les disgyblion a’u hagweddau at ddysgu, yn enwedig sut mae disgyblion yn ymgysylltu ac yn ymddwyn mewn gwersi.” Roeddent hefyd yn crybwyll y cyfleoedd oedd gan ddisgyblion i gymryd rhan mewn nifer o glybiau amser cinio a gweithgareddau ar ôl ysgol a bu iddynt sôn am y cynllun mentora cymheiriaid llwyddiannus iawn lle mae disgyblion hŷn yn cael eu hyfforddi i gefnogi disgyblion o bob oed: “Mae hyn yn cyfrannu’n dda at sgiliau arwain y disgyblion sy’n cymryd rhan ac mae’n helpu i hybu lles cyffredinol disgyblion yn llwyddiannus.”
Mae disgyblion wedi dod yn fwy o ran o wneud penderfyniadau. Mae Cyngor yr Ysgol, er enghraifft, sy’n destun canmoliaeth ac edmygedd, wedi rhannu ei farn am faterion fel rheolau’r ysgol a defnyddio ffonau symudol. Bydd eu rhan nhw mewn penderfyniadau yn cynyddu ar ôl penodi dau Lysgennad Disgyblion i fod ar y Corff Llywodraethu’n ddiweddar.
“Newidiadau a gwelliannau sylweddol”
Dywedodd Ian Roberts, Pennaeth Addysg Wrecsam, “Mae’n galonogol iawn darllen bod Estyn wedi cydnabod y newidiadau a’r gwelliannau sylweddol diweddar sydd wedi’u gwneud yn Ysgol Rhosnesni. Mae’r awdurdod lleol a GwE, y gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion, yn hyderus y bydd yr ysgol yn mynd o nerth i nerth ac yn gwneud cynnydd cyflym wrth fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad gan sefydlu’r newidiadau sydd eisoes wedi’u gwneud.”
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Mae’n dda gweld disgyblion, staff, llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a GwE yn gweithio gyda’i gilydd er llwyddiant yr ysgol yn y dyfodol a bod gwelliannau diweddar wedi’u cydnabod gan Estyn. Mae gennyf bob ffydd y bydd yr ysgol yn parhau i wella dan arweinyddiaeth y pennaeth, y corff llywodraethu a staff yn yr ysgol.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR