Mae swyddogion Safonau Masnach yn pryderu am alwyr digroeso yn cynnig gwerthu nwyddau fel matresi a dodrefn wedi ei glustogi gan ein bod wedi cael cwynion yn ddiweddar gan rai ohonoch sydd wedi eich targedu ganddynt.
Y pryder mawr o ran y math o gynnyrch maen nhw’n ei werthu yw diogelwch.
“Amhosibl dweud a yw’n cydymffurfio”
Mae cyfreithiau llym yn helpu i sicrhau bod dodrefn wedi eu clustogi a matresi yn peri’r risg lleiaf posibl pe bai tân ond gall cynnyrch nad ydynt yn cydymffurfio fod yn angheuol. Gall cynnyrch a gynigir fod â labeli sy’n honni eu bod yn cydymffurfio â safonau diogelwch ond mae’n amhosibl dweud a yw dodrefn neu fatresi yn ddiogel dim ond wrth edrych arnynt.
Oherwydd hyn, mae’n bwysig iawn bod defnyddwyr yn prynu’r cynnyrch hyn gan fanwerthwyr sefydledig ag enw da, a gaiff eu cyflenwi gan weithgynhyrchwyr y mae modd eu hadnabod. Mae prynu ar stepen y drws yn peri risg uchel o gael nwyddau peryglus ac ni fydd gan gwsmeriaid wybodaeth na chofnod o fanylion y gwerthwr na’r gweithgynhyrchwr.
Os ydych wedi prynu matres neu soffa ar stepen y drws, rhowch wybod i Wasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506
Os byddwch yn gweld pobl yn mynd o ddrws i ddrws yn cynnig gwerthu’r eitemau hyn yn eich ardal, rhowch wybod i Cyngor ar Bopeth neu’r Heddlu ar 101
Never miss a thing…follow us on Snapchat.
FOLLOW US ON SNAPCHAT