Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwirfoddolwyr yn helpu bywiogi Canolfan Iechyd Plant Ysbyty Maelor Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwirfoddolwyr yn helpu bywiogi Canolfan Iechyd Plant Ysbyty Maelor Wrecsam
Arall

Gwirfoddolwyr yn helpu bywiogi Canolfan Iechyd Plant Ysbyty Maelor Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 10, 2022 2:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Volunteer
RHANNU

Daeth plant, pobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill at ei gilydd i greu gwaith celf newydd i fywiogi ystafelloedd clinig iechyd plant yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cynhaliwyd y diwrnod a drefnwyd ar y cyd gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (CAMHS) a Senedd yr Ifanc, Cyngor Sir Wrecsam, yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Rhoddwyd gwaith celf y gwirfoddolwyr i’w hongian ar y waliau nodwedd sydd hefyd newydd eu peintio, yn ystafelloedd clinig y Ganolfan Iechyd Plant.

Senedd Ieuenctid Wrecsam yw Senedd yr Ifanc. Mae’n cynnwys pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed sy’n gweithio ar nifer o faterion sydd o bwys i bobl ifanc Wrecsam.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ystod eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn dilyn adborth gan bobl ifanc. Crëwyd grŵp ffocws er mwyn gwrando ar farn pobl ifanc am amgylchedd CAMHS a’r hyn y bydden nhw’n ei awgrymu i wella’r gwasanaeth i blant a phobl ifanc sy’n mynychu apwyntiadau.

VolunteersCyrhaeddodd yr arolwg a drefnwyd gan Senedd yr Ifanc, 947 o blant a phobl ifanc 10-25 mlwydd oed a oedd yn byw, gweithio, cymdeithasu neu’n cael eu haddysgu yn Wrecsam.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ym mis Ebrill 2021, mae CAMHS a Senedd yr Ifanc wedi cymryd nifer o gamau, gan gynnwys gwneud gwelliannau i’r wefan,

ystafelloedd y clinig, yr ardaloedd awyr agored a’r wybodaeth a’r adnoddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

Dywedodd Wendy Pinder, Pennaeth Nyrsio i Blant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol ac Anableddau Dysgu :Dwyrain CAMHS: “Mae wedi bod yn bleser treulio’r dydd yn gwirfoddoli gyda sefydliadau eraill yn ogystal â’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn creu gwaith celf i wella ac ychwanegu ychydig o liw i’r clinigau. Roedd yn brofiad mor bositif i bawb a fu’n cymryd rhan ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

“Yn dilyn yr adborth a gawson ni o adroddiad 2021, rydyn ni wedi datblygu cynllun gweithredu a byddwn yn parhau i roi’r argymhellion ar waith.”

Mae CAMHS yn cefnogi teuluoedd a’u plant o’u genedigaeth hyd at 18 mlwydd oed ac yn canolbwyntio ar gynnig help i blant a phobl ifanc sy’n profi anawsterau emosiynol, ymddygiad neu seicolegol. Caiff ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys Ymarferwyr CAMHS, Nyrsys, Seiciatryddion Plant, Seicolegwyr Clinigol a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Dywedodd Caroline Bennet, Cydlynydd Cyfranogiad Senedd yr Ifanc, “Roedd yn sesiwn hyfryd ac roedd hi’n wych gweld creadigrwydd y bobl ifanc wrth iddyn nhw lunio dau ddarn o gelf anhygoel. Mae’n galonogol gweld canlyniadau ymgynghoriad Senedd yr Ifanc a llais pobl ifanc Wrecsam yn dechrau cymryd siâp. Diolch yn fawr i’r holl staff a’r bobl ifanc a fu’n cymryd rhan. Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod gwirfoddoli nesaf.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Fly-tipping in Marford Ymddygiad gwarthus
Erthygl nesaf Mayor Visits Britain's Youngest Blacksmiths Y Maer yn ymweld â Gofaint Ifanc sy’n Creu Dyfodol Disglair

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English