Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymddygiad gwarthus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ymddygiad gwarthus
Arall

Ymddygiad gwarthus

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 10, 2022 10:20 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Fly-tipping in Marford
RHANNU

Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn tipio’n anghyfreithlon. Ond, yn anffodus, mae yna lond llaw o bobl hunanol sy’n parhau i wastraffu arian ac adnoddau cyhoeddus…

Mae Cyngor Wrecsam wedi estyn ergyd i’r bobl hunanol hynny sy’n gadael sbwriel ar dir cyhoeddus.

Yr wythnos ddiwethaf bu’n rhaid i weithwyr y Cyngor glirio pren, rwbel a deunyddiau eraill a dipiwyd yn anghyfreithlon ar Lôn Springfield ym Merffordd.

Yn ogystal â risgiau i ddiogelwch a difetha edrychiad cymunedau, mae tipio anghyfreithlon yn golygu bod yn rhaid i ni wyro adnoddau cyhoeddus gwerthfawr i’w glirio… sydd wedi’u talu amdanynt gydag arian cyhoeddus.

Roedd y gwaith clirio ar Lôn Springfield yn cynnwys lori gyda chyfarpar codi, tîm ysgubo ffyrdd a threfniadau rheoli traffig i ddiogelu pawb.

Fodd bynnag, mae gan y Cyngor swyddogion gorfodi a chamerâu i helpu i adnabod y rheiny sy’n tipio’n anghyfreithlon, a dyma rybudd difrifol i unrhyw gyflawnwr: ‘rydym ni’n mynd i’ch dal’.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Gadael trethdalwyr i ysgwyddo’r gost

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Roedd hon yn weithred warthus a bwriadol o dipio anghyfreithlon lle’r oedd yr unigolion yn meddwl bod modd iddyn nhw dipio’r sbwriel yma a gadael i’r trethdalwyr ysgwyddo’r gost.

“Roedd y gwaith clirio yn golygu trefnu ein criwiau ar adeg pan oedd ganddyn nhw waith pwysicach i’w wneud.

“Rydw i wedi gofyn i’n swyddogion pryd yr adroddwyd am y digwyddiad, ac a oes modd i ni gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru i weld a oes modd i ni adnabod unrhyw gerbyd a welwyd yn yr ardal.

“Ein neges i’r bobl sy’n difwyno ein cymunedau yw ‘gwaredwch eich sbwriel yn gywir…. neu, fel arall, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch dal a’ch dirwyo a, os yn briodol, eich erlyn drwy’r llysoedd.’”

Mae enghreifftiau eraill o dipio anghyfreithlon yn ystod y dyddiau diwethaf yn cynnwys:

  • Rwbel adeiladu yn rhwystro Stryt y Byddyn yn New Broughton.
  • Soffa ar droedffordd ger Melin y Brenin.
  • Popty wedi’i adael ar Lôn Llys Borras.
  • Sawl llwyth o wastraff adeiladu ar hyd Ffordd Hafod, Hafod y Bwch i Old Sontley Cottages, a Phont Sonlli i groesffyrdd Gyfelia.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Swyddog Gweithrediadau Cludiant Ai chi fydd ein Swyddog Gweithrediadau Cludiant nesaf?
Erthygl nesaf Volunteer Gwirfoddolwyr yn helpu bywiogi Canolfan Iechyd Plant Ysbyty Maelor Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wo
Pobl a lleArallDatgarboneiddio Wrecsam

Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid

Hydref 23, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English