Wythnos Gweithredu Dros Ddementia 16-22 Mai
Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Mae plant anhygoel o amgylch cymuned Wrecsam wedi gwneud ymdrech wych i godi arian ac ymwybyddiaeth o ddementia yn ystod yr wythnos weithredu eleni.
Dros y misoedd diwethaf, mae ysgolion ledled y fwrdeistref sirol wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau Cyfeillion Dementia i ddysgu am y cyflwr.
Yn ystod y sesiynau hyn, maent wedi bod yn dysgu sut i wneud y byd yn lle gwell i’r rheiny sy’n byw â dementia trwy edrych ar ffyrdd o wneud bywyd yn haws i unigolion a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan y clefyd.
Chwilota trwy’r Cwpwrdd
Bob blwyddyn yn ystod Wythnos Gweithredu dros Ddementia, cynhelir “Diwrnod Denim ar gyfer Dementia” lle mae pobl yn cael eu hannog i wisgo dillad denim i ddangos eu cefnogaeth i Wythnos Gweithredu dros Ddementia.
Fel pob blwyddyn arall, ni chawsom ein siomi gan ddisgyblion ysgolion Wrecsam eleni a gwisgodd plant o Ducks and Ducklings, Ysgol Victoria, Ysgol Gynradd Holt ac Ysgol Is-y-coed i gyd eu dillad denim gorau er budd yr achos anhygoel hwn.
Fel y gwelwch o’r lluniau isod, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac mae pawb wedi dod â balchder mawr i gymuned Wrecsam gyda’u holl ymdrechion gwych.
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam , “Mae ymateb y plant i’r Wythnos Gweithredu dros Ddementia a’r Diwrnod Denim ar gyfer Dementia wedi bod yn ardderchog.
“Maen nhw wedi trin y pwnc mor bositif ac aeddfed ac wedi dangos empathi anhygoel, ac rwy’n falch iawn o bob unigolyn sydd wedi cymryd rhan.
“Mae llawer o bobl yn byw gyda dementia ac mae gan rai plant aelodau o’u teulu sy’n dioddef o’r cyflwr. Felly mae pob gweithred fach – boed yn wisgo dillad denim neu wneud addewid i rywun sy’n byw â dementia – yn cyfrannu at wneud dyfodol y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y cyflwr yn fwy disglair a charedig.”