Mae Ysgol Llan-y-pwll, yr Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd arfaethedig, yn agor yn Morras ym mis Medi a gallwch wneud cais rŵan i dderbyn eich plentyn i’r dosbarthiadau Meithrin a Derbyn.
Bydd angen i’ch plentyn ddathlu ei ben-blwydd yn 3 neu 4 oed cyn 1 Medi 2022 a gallwch wneud cais ar-lein drwy fynd ar dderbyniadau ysgol neu anfonwch e-bost at admissions@wrexham.gov.uk am fwy o fanylion.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r ysgol ar: ysgol.cymraeg@wrexham.gov.uk
Bydd Ysgol Llan-y-pwll yn agor i ymestyn y ddarpariaeth o addysg Cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol a bydd yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd yn agor ar safle presennol adeilad Babanod Parc Borras a fydd yn cael ei ailwampio a’i ariannu gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.
Mae’r Rhaglen yn anelu at drawsnewid y profiad dysgu i ddysgwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau sydd â’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i ddarparu cwricwlwm yr 21ain ganrif.
Pan fydd yr ysgol wedi agor yn llawn bydd yn gartref i 210 o ddisgyblion a bydd 30 o lefydd meithrin hefyd ar gael.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL