Ydych chi wedi cael llythyr neu ffurflen gennym ni yn gofyn i chi gadarnhau eich manylion ar y gofrestr etholiadol? Peidiwch â’i anwybyddu! Trwy lenwi’r ffurflen hon, byddwch chi’n barod i bleidleisio pan fydd hi’n gyfnod etholiadau.
Rydym yn annog pob preswyliwr i wirio’r manylion etholiadol neu gallan nhw golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sydd yn effeithio arnyn nhw.
Gelwir gwirio manylion fel hyn yn ganfas blynyddol.
Mae’r canfas blynyddol hwn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni wneud bob blwyddyn yn unol â’r gyfraith ac mae’n golygu cysylltu â phob aelwyd yn Wrecsam i wirio bod y manylion sydd gennym am bob eiddo’n gywir fel bod modd i bawb sy’n gymwys i bleidleisio, wneud hynny.
Dros y blynyddoedd diweddar, mae mwyfwy o bobl wedi dod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Cymru felly mae’n bwysig sicrhau bod y gofrestr yn gyfredol:
- Yng Nghymru, mae pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol, sydd yn golygu bod angen i blant 14 a 15 oed gofrestru hefyd. Os oes unrhyw un 14 oed neu hŷn yn byw yn eich eiddo, gallant gael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol fel bod modd iddynt bleidleisio yn yr etholiadau hyn pan fyddan nhw’n 16 oed.
- Mae pob gwladolyn tramor, sydd yn byw yng Nghymru’n gyfreithlon, yn gallu pleidleisio hefyd. Yn flaenorol, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu’r UE oedd yn cael pleidleisio. Mae hyn yn golygu os ydych yn dod o wlad arall ar wahân i’r rhain, gallwch bleidleisio yn yr etholiadau bellach.
Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghyngor Wrecsam: “Y canfas blynyddol yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. Gwyliwch am ohebiaeth gan Gyngor Wrecsam a dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud yn siŵr na fyddwch chi’n colli’r cyfle i fwrw eich pleidlais yn yr etholiad nesaf.
“Os na fyddwch wedi clywed gan y Cyngor, efallai nad ydych ar y gofrestr. Os ydych eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”
Mae gennych tan 30 Tachwedd i roi gwybod i ni os oes unrhyw beth wedi newid ar eich ffurflen.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.