Llun Self Esteem – gan Olivia Richardson
FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru bellach, gyda thri diwrnod llawn o baneli, sgyrsiau gan brif siaradwyr a chyngor yn ymwneud â’r diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae’r ŵyl wedi cyflwyno lleoliad mawr newydd gyda chapasiti o 1200, gan wthio capasiti cyffredinol yr ŵyl i 20,000. Bydd dros 400 o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth a 250+ o berfformwyr yn dod i’r ŵyl yn Wrecsam o bob cwr o’r byd ar 5 – 7 Mai 2022.
Mae sesiwn gyda phrif siaradwr yr ŵyl wedi ei gyhoeddi heddiw, sef Rebecca Lucy Taylor (Self Esteem) mewn sgwrs gyda Jude Rogers (The Guardian). Bydd Rebecca yn trafod ei gyrfa mewn cerddoriaeth hyd yn hyn, gan gynnwys croesi’r diwydiant o fand indi’r 00au i seren bop sydd wedi ennill gwobrau, a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr yn serennu Jodie Comer.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd Jude Rogers hefyd yn sgwrsio gyda’r cyfansoddwr ac awdur Flip The Script Arusa Qureshi, yn dilyn cyhoeddiad llyfr Jude The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives.
Bydd testunau panel eraill yn archwilio teithio’n gynaliadwy, Power Up Wales PRSF, cysylltiadau cyhoeddus, beth mae’n ei olygu i fod yn label indi yn 2022, a chyhoeddi. Bydd PRSF hefyd yn cynnal digwyddiad swyddogol ar gyfer eu Partneriaid Datblygu Talent.
Mae’r cyfranogwyr diwydiant sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys: Lauren Down (End of The Road Festival), Cils Williams (ATC Live Agency), Jessie Atkinson (Giwise), Ben Ryles (DHP Family), Ian White (Outer/most Agency, UDA), Shikayla Nadine (SNM Management), Adam Lewis (Planetary Group, UDA), Anika Mottershaw (Bella Union), Chris Wynters (Six Shooter Records), Jeroen van den Bogert (BLiP Agency, Yr Iseldiroedd), Oskar Strajn (ESNS, Yr Iseldiroedd), Dana Beeler (Music Nova Scotia) yn ogystal â chynrychiolwyr o PRS Foundation, AIM, PPL a’r Cyngor Celfyddydau.
Mae’r perfformwyr sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer FOCUS Wales 2022 yn cynnwys…
Yn dilyn rhyddhau eu 4ydd albwm Bright Magic yn niwedd 2021, bydd PUBLIC SERVICE BROADCASTING yn perfformio eu set byw mwyaf uchelgeisiol erioed, gan serennu yn Llwyn Isaf, y brif babell newydd ar ddydd Iau 5 Mai. Yn dilyn sgwrs Rebecca yn yr ŵyl, bydd SELF ESTEEM yn perfformio’n fyw am y tro cyntaf yn Wrecsam ddydd Gwener 6 Mai.
Bydd un o’r bandiau mwyaf dylanwadol ym myd cerddoriaeth fodern y DU, ECHO & THE BUNNYMEN yn serennu ddydd Sadwrn 7 Mai. Mae’r perfformwyr eraill sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys y band pync GOAT GIRL, yn teithio ar ôl eu halbwm 2021 On All Fours, yr artist Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau GWENNO, a’r grŵp roc CRAWLERS. Hefyd yn ymuno â’r rhestr o berfformwyr yw’r grŵp 16 darn, BALIMAYA PROJECT gan uno cerddoriaeth werin Gorllewin Affrica gyda jas mewn ffordd unigryw a chyfoes.
Cynhelir FOCUS Wales 2022 ar 5, 6 a 7 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Cefnogir FOCUS Wales gan Gyngor Celfyddydau Cymru, PRS Foundation a Llywodraeth Cymru.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH