Yn ddiweddar, ymunodd Tasglu Eco-weithredu Ysgol Clywedog yn Wrecsam â Colegio Enriquez Soler yn Melilla i greu fideo wych sy’n tynnu sylw at y problemau mae gwastraff plastig yn eu hachosi.
Mae Colegio Enriquez Soler yn ysgol Sbaenaidd, ond mae wedi’i lleoli ar arfordir gogledd Affrica, ac yn rhannu ffin â Moroco.
Mae’r fideo tri munud o hyd o’r enw ‘Plastic Waste – An Intercontinental Problem’ yn edrych ar sut rydyn ni wedi troi’n ‘fyd o daflu’ ac mae’r disgyblion yn ystyried y gwahanol broblemau sy’n deillio o hyn. Mae’r fideo wedi’i chyflwyno i gystadleuaeth Young Reporter for the Environment 2020.
Dywedodd Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth yn Ysgol Clywedog: “Fe wnaethom ni roi cynnig ar gystadleuaeth Young Reporter for the Environment gyda’r bwriad o greu fideo a oedd yn edrych ar y gwastraff plastig yn ein hysgol. Wedyn, mi gawsom gyfle i uno ag ysgol arall dramor ac fe gipiodd y disgyblion y cyfle.
“Roeddwn i mor falch o’r ffordd roedden nhw’n gweithio gyda’r disgyblion yn Melilla fel pe baen nhw’n ddosbarth arall yn ein hysgol ni, er bod 2,000 o filltiroedd rhyngddynt a’u bod yn siarad ieithoedd gwahanol.”
Tasglu Eco-weithredu
Mae gan Ysgol Clywedog ei ‘Thasglu Eco-weithredu’ ei hun, a gafodd ei greu ym mis Medi 2019, yn wreiddiol i achub hen gae chwaraeon corsiog a’i droi’n ardal ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a chyfoeth o fioamrywiaeth. Ers hynny, maen nhw wedi parhau i gymryd rhan mewn prosiectau mwy amgylcheddol.
Ychwanegodd Nicholas: “Rydw i mor falch o ymroddiad a ffocws y Tasglu Eco-weithredu. Maen nhw eisoes wedi ennill sawl gwobr a dwi’n siŵr bod mwy ar eu ffordd! Mae’r disgyblion wedi dysgu cymaint o sgiliau o’r un prosiect yma.
“Rydyn ni wedi defnyddio Skype yn ystod y camau cynllunio i gysylltu’n fyw â’r ysgol, lle cafodd ein disgyblion ni ofyn cwestiynau i’w disgyblion nhw ac i’r gwrthwyneb. Roedd y disgyblion hefyd yn ymarfer eu sgiliau iaith a chyfathrebu drwy wneud hyn. Roedden nhw hefyd yn dysgu mwy am y broblem gwastraff plastig a sut mae wedi troi’n broblem fyd-eang.”
Mae’r Tasglu Eco-weithredu bellach yn meddwl am eu prosiect mawr nesaf, lle byddan nhw’n creu rhandir garddio i’r ysgol.
Dywedodd Nicholas wrthym ni: “Rŵan a thros yr haf, bydd y grŵp yn canolbwyntio ar greu rhandir i’r ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gael dysgu yn yr awyr agored, cyfleoedd gwaith tîm ac yn rhoi hwb i’w hiechyd meddwl.
“Yna, yn ystod misoedd oer y gaeaf, byddwn yn canolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar faterion fel plastig yn yr ysgol. Mae’r ysgol eisoes yn rhannu gwastraff yn wastraff ailgylchadwy a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu ac mae gennym bwynt casglu beiros sych a phacedi creision, ond mae llawer mwy y gallwn ni ei wneud eto.”
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN