Mae grŵp i bobl dros 50 oed sydd yn cwrdd yng Nghanolfan Adnoddau Acton yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf.
Mae Purple Orchids yn grŵp i ddynion a merched dros 50 oed a allai deimlo’n unig neu’n ynysig.
Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis, a’r pris yw £5 y sesiwn. Mae hyn yn cynnwys yr holl ddeunyddiau crefft yn ogystal â chinio dau gwrs a the/coffi.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Nod grantiau Cynhwysiant Cymunedol ydi gwella iechyd a lles y cyhoedd a lleihau arwahanrwydd a chefnogi datblygiad gweithgareddau sy’n seiliedig yn y gymuned. Mae Purple Orchids yn un o nifer o grwpiau sydd wedi eu chefnogi gan y grant Cynhwysiant Cymunedol, sydd yn cyfoethogi bywydau’r bobl sydd yn mynychu. Fe hoffwn ddymuno pen-blwydd cyntaf hapus iawn iddynt a gobeithio bod yna lawer mwy i ddod”.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dywedodd Barbara Tasker, aelod o Purple Orchids: “Mae’r grŵp wedi rhoi rheswm i mi ddod allan o’r tŷ, rhywbeth i mi ei wneud. Mae’n golygu cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd a dod â phobl at ei gilydd.
Nid pensiynwyr ydym ni, rydym ni’n ifanc ein hysbryd. Rydym yn bobl sy’n gwneud llawer o weithgareddau ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd”.
Mae cyswllt ac anogaeth gymdeithasol yn lleihau arwahanrwydd ac yn cyfoethogi bywydau, felly mae Cyngor Wrecsam yn cynnig grantiau bychan unigryw ar gyfer cynhwysiant cymunedol i gefnogi datblygiad gweithgareddau sy’n seiliedig yn y gymuned.
Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer sesiynau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau. Gwahoddir cynigion gan unigolion neu sefydliadau ar gyfer gweithgareddau megis:
- Cinio gyda chwmni da
- Rhannu hobïau
- Dysgu sgiliau newydd
I gael ‘Ffurflen Mynegi Diddordeb’ anfonwch gais i:
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 28 Medi 2018.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION